beibl.net 2015

Jeremeia 48:34-42 beibl.net 2015 (BNET)

34. “Bydd y gweiddi a'r galar yn Cheshbon i'w glywed yn Eleale a hyd yn oed Iahats. Bydd i'w glywed o Soar i Choronaïm ac Eglath-shalisheia. Bydd hyd yn oed dŵr Nimrim yn cael ei sychu.

35. Fydd neb yn mynd i fyny i aberthu ar yr allorau paganaidd, ac yn llosgi arogldarth i dduwiau Moab,” meddai'r ARGLWYDD.

36. “Felly bydd fy nghalon yn griddfan fel pibau dros Moab. Pibau chwyth yn canu cân i alaru dros bobl Cir-cheres. Bydd y cyfoeth wnaethon nhw ei gasglu yn diflannu.

37. “Bydd pawb wedi siafio'r pen a'r farf. Bydd pawb wedi torri eu dwylo a chyllyll, ac yn gwisgo sachliain.

38. Fydd dim byd ond galaru i'w glywed ar bennau'r tai ac ar y sgwariau. Dw i'n mynd i dorri Moab fel potyn pridd does neb ei eisiau,” meddai'r ARGLWYDD.

39. “Bydd wedi ei dorri'n deilchion! Bydd y bobl yn udo! Bydd Moab yn troi ei chefn mewn cywilydd! Bydd yn destun sbort ac yn olygfa ddychrynllyd i'r gwledydd o'i chwmpas.”

40. Ie, dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud:“Edrychwch! bydd y gelyn fel eryryn lledu ei adenydd ac yn plymio i lawr ar Moab.

41. Bydd ei threfi yn cael eu meddiannu,a'r caerau sy'n ei hamddiffyn yn cael eu dal.Ar y diwrnod hwnnw bydd milwyr Moab wedi dychrynfel gwraig ar fin cael babi!

42. Bydd Moab yn cael ei dinistrio ac yn peidio â bod yn genedl,am ei bod hi wedi brolio ei bod yn well na'r ARGLWYDD.