Jeremeia

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25
  26. 26
  27. 27
  28. 28
  29. 29
  30. 30
  31. 31
  32. 32
  33. 33
  34. 34
  35. 35
  36. 36
  37. 37
  38. 38
  39. 39
  40. 40
  41. 41
  42. 42
  43. 43
  44. 44
  45. 45
  46. 46
  47. 47
  48. 48
  49. 49
  50. 50
  51. 51
  52. 52

beibl.net 2015

Jeremeia 47 beibl.net 2015 (BNET)

Neges am drefi Philistia

1. Y neges roddodd yr ARGLWYDD i Jeremeia am y Philistiaid, cyn i'r Pharo ymosod ar Gasa.

2. Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud:“Edrychwch! Mae'r gelynion yn codi yn y gogledd fel afon ar fin gorlifo.Byddan nhw'n dod fel llifogydd i orchuddio'r tir.Byddan nhw'n dinistrio'r wlad a phopeth ynddi,y trefi a phawb sy'n byw ynddyn nhw.Bydd pobl yn gweiddi mewn dychryn,a phopeth byw yn griddfan mewn poen.

3. Bydd sŵn y ceffylau'n carlamu,y cerbydau'n clecian, a'r olwynion yn rymblan.Bydd rhieni'n ffoi am eu bywydauheb feddwl troi'n ôl i geisio achub eu plantam fod arnynt gymaint o ofn.

4. Mae'r diwrnod wedi dod i'r Philistiaid gael eu dinistrio,a'r cynghreiriaid sydd ar ôl yn Tyrus a Sidon.Ydw, dw i'r ARGLWYDD yn mynd i ddinistrio'r Philistiaid,y bobl ddaeth drosodd o ynys Creta.

5. Bydd pobl Gasa yn siafio eu pennau mewn galar,ac Ashcelon yn cael eu taro'n fud.Am faint ydych chi sydd ar ôl ar y gwastatiryn mynd i ddal ati i dorri eich hunain â chyllyll?”

6. “O! gleddyf yr ARGLWYDD,am faint wyt ti'n mynd i ddal ati i ladd?Dos yn ôl i'r wain!Aros yno, a gorffwys!”