beibl.net 2015

Jeremeia 43:1-9 beibl.net 2015 (BNET)

1. Pan oedd Jeremeia wedi gorffen dweud wrth y bobl beth oedd neges yr ARGLWYDD eu Duw iddyn nhw,

2. dyma Asareia fab Hoshaia, Iochanan fab Careach a dynion eraill oedd yn meddwl eu bod nhw'n gwybod yn well yn ateb Jeremeia, “Ti'n dweud celwydd! Dydy'r ARGLWYDD ein Duw ddim wedi dweud wrthon ni am beidio mynd i fyw i'r Aifft.

3. Barŵch fab Nereia sydd wedi dy annog di i ddweud hyn, er mwyn i'r Babiloniaid ein dal ni, a'n lladd neu ein cymryd ni'n gaeth i Babilon.”

4. Felly wnaeth Iochanan fab Careach a swyddogion y fyddin a gweddill y bobl ddim aros yn Jwda fel y dwedodd yr ARGLWYDD wrthyn nhw.

5. Dyma Iochanan a'r swyddogion eraill yn mynd â'r bobl oedd ar ôl yn Jwda gyda nhw i'r Aifft. (Roedd ffoaduriaid gyda nhw, sef y rhai oedd wedi dod yn ôl i fyw yn Jwda o'r gwledydd ble roedden nhw wedi dianc.

6. Hefyd y bobl oedd Nebwsaradan, capten y gwarchodlu brenhinol wedi eu gadael yng ngofal Gedaleia – dynion, gwragedd, plant, a merched o'r teulu brenhinol. Aethon nhw hyd yn oed â'r proffwyd Jeremeia a Barŵch fab Nereia gyda nhw.)

7. Aethon nhw i'r Aifft am eu bod nhw'n gwrthod gwrando ar yr ARGLWYDD. A dyma nhw'n cyrraedd Tachpanches.

8. Yn Tachpanches dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Jeremeia:

9. “Cymer gerrig mawr a'u claddu nhw dan y pafin morter sydd o flaen y fynedfa i balas y Pharo yn Tachpanches. Dw i eisiau i bobl Jwda dy weld ti'n gwneud hyn.