beibl.net 2015

Jeremeia 42:9-19 beibl.net 2015 (BNET)

9. Yna dyma Jeremeia'n dweud wrthyn nhw, “Anfonoch chi fi at yr ARGLWYDD, Duw Israel, gyda'ch cais; a dyma beth mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud:

10. ‘Os gwnewch chi aros yn y wlad yma, bydda i'n eich adeiladu chi. Fydda i ddim yn eich bwrw chi i lawr. Bydda i'n eich plannu chi yn y tir yma, a ddim yn eich tynnu fel chwyn. Dw i'n wirioneddol drist o fod wedi'ch dinistrio chi.

11. Ond bellach does dim rhaid i chi fod ag ofn brenin Babilon. Peidiwch bod a'i ofn, achos dw i gyda chi, i'ch achub chi o'i afael.

12. Dw i'n mynd i fod yn garedig atoch chi, a gwneud iddo fe fod yn garedig atoch chi trwy adael i chi fynd yn ôl i'ch tir.’

13. “Os byddwch chi'n gwrthod gwrando ar yr ARGLWYDD eich Duw, a mynnu, ‘Na, dŷn ni ddim am aros yma,

14. dŷn ni am fynd i wlad yr Aifft i fyw. Fydd dim rhaid i ni wynebu rhyfel yno, a clywed sŵn y corn hwrdd yn ein galw i ymladd. Fydd dim rhaid i ni lwgu yno …’

15. Os dyna wnewch chi, dyma neges yr ARGLWYDD i chi sydd ar ôl o bobl Jwda. Dyma mae'r ARGLWYDD holl-bwerus, Duw Israel yn ei ddweud: ‘Os ydych chi mor benderfynol o fynd i'r Aifft a setlo yno,

16. bydd y rhyfel dych chi'n ei ofni yn eich dilyn chi i wlad yr Aifft. Bydd y newyn dych chi'n poeni amdano yn dod ar eich hôl chi hefyd, a byddwch chi'n marw yno.

17. Bydd pawb sy'n penderfynu mynd i setlo yn yr Aifft yn cael eu lladd mewn rhyfel, neu yn marw o newyn neu haint. Bydd y dinistr fydda i'n ei anfon arnyn nhw mor ofnadwy fydd neb ar ôl yn fyw.’

18. “Dyma mae'r ARGLWYDD holl-bwerus, Duw Israel, yn ei ddweud: ‘Yn union fel gwnes i dywallt fy llid mor ffyrnig ar bobl Jerwsalem, bydda i'n tywallt fy llid arnoch chi pan ewch chi i'r Aifft. Bydd pethau ofnadwy yn digwydd i chi, a byddwch yn destun sbort ac yn esiampl o bobl wedi eich melltithio. A fyddwch chi ddim yn gweld y lle yma byth eto.’

19. “Chi bobl Jwda sydd ar ôl yma, mae'r ARGLWYDD yn dweud wrthoch chi, ‘Peidiwch mynd i'r Aifft.’ Dw i am i chi ddeall fy mod i wedi eich rhybuddio chi heddiw.