1. Dyma swyddogion y fyddin i gyd, gan gynnwys Iochanan fab Careach a Iesaneia fab Hoshaia, a pawb arall (y bobl gyffredin a'r arweinwyr)
2. yn mynd at y proffwyd Jeremeia, a gofyn iddo, “Plîs wnei di weddïo ar yr ARGLWYDD dy Dduw droson ni – fel ti'n gweld does ond criw bach ohonon ni ar ôl.
3. Gofyn i'r ARGLWYDD dy Dduw ddangos i ni ble i fynd a beth i'w wneud.”
4. A dyma Jeremeia yn ateb, “Iawn. Gwna i weddïo ar yr ARGLWYDD eich Duw fel dych chi'n gofyn, a dweud wrthoch chi bopeth fydd yr ARGLWYDD yn ei ddweud. Gwna i guddio dim byd.”
5. A dyma nhw'n ateb Jeremeia, “Bydd yr ARGLWYDD ei hun yn dyst yn ein herbyn os na wnawn ni yn union beth fydd e'n ei ddweud wrthon ni trwot ti.