beibl.net 2015

Jeremeia 4:5-13 beibl.net 2015 (BNET)

5. “Cyhoeddwch hyn yn Jwda,a dweud wrth bawb yn Jerwsalem:‘Chwythwch y corn hwrdd i rybuddio pobl drwy'r wlad i gyd.’Gwaeddwch yn uchel,‘Dewch, rhaid dianc i'r trefi caerog!’

6. Codwch arwydd yn dweud, ‘I Seion!’Ffowch i le saff! Peidiwch sefyllian!Dw i ar fin dod â dinistr o gyfeiriad y gogledd –trychineb ofnadwy!

7. Mae llew wedi dod allan o'i ffau!Mae'r un sy'n dinistrio cenhedloedd ar ei ffordd.Mae'n dod i ddifetha'r wlad,a gwneud ei threfi yn adfeilion lle bydd neb yn byw.

8. Felly gwisgwch sachliain, a galaru ac udo:‘Mae'r ARGLWYDD yn dal wedi digio'n lân hefo ni.’”

9. “Y diwrnod hwnnw,” meddai'r ARGLWYDD, “bydd y brenin a'i swyddogion wedi colli pob hyder. Bydd yr offeiriaid yn syfrdan a'r proffwydi'n methu dweud gair.”

10. Fy ymateb i oedd, “O! Feistr, ARGLWYDD, mae'n rhaid dy fod ti wedi twyllo'r bobl yma'n llwyr, a Jerwsalem hefyd! Roeddet ti wedi addo heddwch i Jerwsalem, ond mae cleddyf yn cyffwrdd ein gyddfau ni!”

11. Bryd hynny bydd yr ARGLWYDD yn dweud wrth y bobl yma ac wrth Jerwsalem, “Bydd gwynt poeth o fryniau'r anialwch yn chwythu ar fy mhobl druan. Nid rhyw wynt ysgafn i nithio'r had a chwythu'r us i ffwrdd fydd e.

12. Na, bydd yn wynt llawer rhy gryf i hynny! Dw i fy hun yn mynd i'w barnu nhw.”

13. Edrychwch! Mae'r gelyn yn dod fel cymylau'n casglu.Mae sŵn ei gerbydau fel sŵn corwynt,a'i geffylau yn gyflymach nag eryrod.“Gwae ni, mae hi ar ben arnon ni!” meddai'r bobl.