beibl.net 2015

Jeremeia 4:21-31 beibl.net 2015 (BNET)

21. Am faint mae'n rhaid edrych ar faneri'r gelyn?Am faint rhaid i'r rhyfela fynd ymlaen?

22. “Mae fy mhobl yn ffyliaid.Dŷn nhw ddim yn fy nabod i go iawn.Maen nhw fel plant heb ddim sens.Dŷn nhw'n deall dim byd!Maen nhw'n hen lawiau ar wneud drwg,ond ddim yn gwybod sut i wneud beth sy'n dda.”

23. Edrychais ar y ddaear, ac roedd yn anrhefn gwag.Edrychais i'r awyr, a doedd dim golau!

24. Edrychais ar y mynyddoedd, ac roedden nhw'n crynu!Roedd y bryniau i gyd yn gwegian.

25. Edrychais eto – doedd dim pobl yn unman,ac roedd yr adar i gyd wedi hedfan i ffwrdd.

26. Edrychais, ac roedd y tir amaeth wedi troi'n anialwch,a'r trefi i gyd yn adfeilion.Yr ARGLWYDD oedd wedi achosi'r cwbl,am ei fod wedi digio'n lân hefo ni.

27. Ie, dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud:“Bydd y tir i gyd yn destun siocond fydda i ddim yn ei ddinistrio'n llwyr.

28. Bydd y ddaear yn galaru,a'r awyr wedi tywyllu.Dw i wedi dweud yn glir beth dw i am ei wneud,a dw i ddim yn bwriadu newid fy meddwl.”

29. Mae sŵn y marchogion a'r bwasaethwyr yn dod,ac mae pawb yn ffoi o'r trefi.Maen nhw'n cuddio yn y llwyni, ac yn dringo'r clogwyni.Mae'r trefi'n wag – does neb ar ôl ynddyn nhw!

30. A tithau'r ddinas sy'n mynd i gael dy ddinistrio –Beth wyt ti'n wneud yn dy ddillad gorau?Pam wyt ti'n addurno dy hun hefo dy dlysau?Pam wyt ti'n rhoi colur ar dy lygaid?Does dim pwynt i ti wisgo colur.Mae dy ‛gariadon‛ wedi dy wrthod;maen nhw eisiau dy ladd di!

31. I ddweud y gwir, dw i wedi clywed sŵn crïo.Sŵn gwraig ifanc mewn poen wrth gael ei babi cyntaf.Sŵn Seion yn anadlu'n drwm, ac yn pledio am help:“Mae ar ben arna i!Mae'r llofruddion yma wedi cael y gorau arna i.”