beibl.net 2015

Jeremeia 4:13-24 beibl.net 2015 (BNET)

13. Edrychwch! Mae'r gelyn yn dod fel cymylau'n casglu.Mae sŵn ei gerbydau fel sŵn corwynt,a'i geffylau yn gyflymach nag eryrod.“Gwae ni, mae hi ar ben arnon ni!” meddai'r bobl.

14. O, Jerwsalem, golcha'r drwg o dy galoni ti gael dy achub.Am faint wyt ti'n mynd i ddal gafaelyn dy syniadau dinistriol?

15. Mae negeswyr yn dod i gyhoeddi dinistr,o dref Dan ac o fryniau Effraim.

16. Cyhoeddwch i'r gwledydd o'i chwmpas, “Maen nhw yma!”a dwedwch wrth Jerwsalem,“Mae'r rhai sy'n ymosod ar ddinasoedd wedi dod o wlad bell,ac yn bloeddio, ‘I'r gâd!’ yn erbyn trefi Jwda.”

17. Maen nhw'n cau amdani o bob cyfeiriad,fel gwylwyr yn gofalu am gae.“Ydy, mae hi wedi gwrthryfela yn fy erbyn i,”meddai'r ARGLWYDD.

18. Ti wedi dod â hyn arnat dy hun,am y ffordd rwyt wedi byw a'r pethau rwyt wedi eu gwneud.Bydd dy gosb yn brofiad chwerw!Bydd fel cleddyf yn treiddio i'r byw!

19. O'r poen dw i'n ei deimlo!Mae fel gwayw yn fy mol,ac mae fy nghalon i'n pwmpio'n wyllt.Alla i ddim cadw'n dawelwrth glywed y corn hwrdd yn seinioa'r milwyr yn gweiddi “I'r gâd!”

20. Mae un dinistr yn dod ar ôl y llall,nes bod y wlad i gyd wedi ei difetha.Yn sydyn mae pob pabell wedi ei dinistrio,a'u llenni wedi eu rhwygo mewn chwinciad.

21. Am faint mae'n rhaid edrych ar faneri'r gelyn?Am faint rhaid i'r rhyfela fynd ymlaen?

22. “Mae fy mhobl yn ffyliaid.Dŷn nhw ddim yn fy nabod i go iawn.Maen nhw fel plant heb ddim sens.Dŷn nhw'n deall dim byd!Maen nhw'n hen lawiau ar wneud drwg,ond ddim yn gwybod sut i wneud beth sy'n dda.”

23. Edrychais ar y ddaear, ac roedd yn anrhefn gwag.Edrychais i'r awyr, a doedd dim golau!

24. Edrychais ar y mynyddoedd, ac roedden nhw'n crynu!Roedd y bryniau i gyd yn gwegian.