beibl.net 2015

Jeremeia 4:10-19 beibl.net 2015 (BNET)

10. Fy ymateb i oedd, “O! Feistr, ARGLWYDD, mae'n rhaid dy fod ti wedi twyllo'r bobl yma'n llwyr, a Jerwsalem hefyd! Roeddet ti wedi addo heddwch i Jerwsalem, ond mae cleddyf yn cyffwrdd ein gyddfau ni!”

11. Bryd hynny bydd yr ARGLWYDD yn dweud wrth y bobl yma ac wrth Jerwsalem, “Bydd gwynt poeth o fryniau'r anialwch yn chwythu ar fy mhobl druan. Nid rhyw wynt ysgafn i nithio'r had a chwythu'r us i ffwrdd fydd e.

12. Na, bydd yn wynt llawer rhy gryf i hynny! Dw i fy hun yn mynd i'w barnu nhw.”

13. Edrychwch! Mae'r gelyn yn dod fel cymylau'n casglu.Mae sŵn ei gerbydau fel sŵn corwynt,a'i geffylau yn gyflymach nag eryrod.“Gwae ni, mae hi ar ben arnon ni!” meddai'r bobl.

14. O, Jerwsalem, golcha'r drwg o dy galoni ti gael dy achub.Am faint wyt ti'n mynd i ddal gafaelyn dy syniadau dinistriol?

15. Mae negeswyr yn dod i gyhoeddi dinistr,o dref Dan ac o fryniau Effraim.

16. Cyhoeddwch i'r gwledydd o'i chwmpas, “Maen nhw yma!”a dwedwch wrth Jerwsalem,“Mae'r rhai sy'n ymosod ar ddinasoedd wedi dod o wlad bell,ac yn bloeddio, ‘I'r gâd!’ yn erbyn trefi Jwda.”

17. Maen nhw'n cau amdani o bob cyfeiriad,fel gwylwyr yn gofalu am gae.“Ydy, mae hi wedi gwrthryfela yn fy erbyn i,”meddai'r ARGLWYDD.

18. Ti wedi dod â hyn arnat dy hun,am y ffordd rwyt wedi byw a'r pethau rwyt wedi eu gwneud.Bydd dy gosb yn brofiad chwerw!Bydd fel cleddyf yn treiddio i'r byw!

19. O'r poen dw i'n ei deimlo!Mae fel gwayw yn fy mol,ac mae fy nghalon i'n pwmpio'n wyllt.Alla i ddim cadw'n dawelwrth glywed y corn hwrdd yn seinioa'r milwyr yn gweiddi “I'r gâd!”