beibl.net 2015

Jeremeia 37:1-6 beibl.net 2015 (BNET)

1. Sedeceia, mab i Joseia, wnaeth olynu Jehoiachin fab Jehoiacim yn frenin ar Jwda. Cafodd Sedeceia ei benodi'n frenin gan Nebwchadnesar, brenin Babilon.

2. Ond wnaeth e a'i swyddogion, na'r bobl gyffredin chwaith, ddim gwrando ar beth roedd yr ARGLWYDD yn ei ddweud drwy'r proffwyd Jeremeia.

3. Er hynny, dyma'r brenin Sedeceia yn anfon Iehwchal fab Shelemeia a'r offeiriad Seffaneia fab Maaseia at Jeremeia. Dwedodd wrthyn nhw am ofyn iddo, “Plîs gweddïa y bydd yr ARGLWYDD ein Duw yn ein helpu ni.”

4. (Ar y pryd roedd Jeremeia'n dal yn rhydd i fynd a dod. Doedd e ddim eto wedi cael ei roi yn y carchar.)

5. Roedd byddin Babilon wedi stopio ymosod ar Jerwsalem am y tro. Roedden nhw wedi clywed fod byddin y Pharo yn dod i fyny o'r Aifft, ac felly dyma nhw'n gadael Jerwsalem.

6. A dyma'r ARGLWYDD yn rhoi neges i Jeremeia: