beibl.net 2015

Jeremeia 35:2-10 beibl.net 2015 (BNET)

2. “Dos i'r gymuned ble mae'r Rechabiaid yn byw, i siarad â nhw a'u gwahodd nhw i deml yr ARGLWYDD. Dos â nhw i un o'r ystafelloedd ochr, a chynnig gwin iddyn nhw i'w yfed.”

3. Felly dyma fi'n mynd i nôl Jaasaneia (mab Jeremeia ac ŵyr Chafatsineia) a'i frodyr a'i feibion, a gweddill y gymuned o Rechabiaid,

4. a mynd â nhw i deml yr ARGLWYDD. Es â nhw i'r ystafell ble roedd disgyblion y proffwyd Chanan fab Igdaleia yn aros – sef drws nesa i'r ystafell ble roedd swyddogion y deml yn aros, ac uwch ben ystafell Maaseia fab Shalwm, prif borthor y deml.

5. Dyma fi'n rhoi jygiau o win a chwpanau o'u blaenau nhw, a dweud, “Cymerwch win.”

6. Ond dyma nhw'n ateb, “Na. Dŷn ni ddim yn yfed gwin am fod Jonadab fab Rechab ein cyndad ni wedi dweud wrthon ni am beidio. ‘Dylech chi a'ch plant byth yfed gwin,’ meddai.

7. ‘Peidiwch adeiladu tai. Peidiwch tyfu cnydau. A peidiwch plannu na phrynu gwinllan. Dych chi i fyw mewn pebyll bob amser. Os gwnewch chi hynny byddwch yn byw am hir yn y wlad lle ydych chi'n crwydro.’

8. Dŷn ni a'n gwragedd a'n plant bob amser wedi gwrando a bod yn ufudd i orchymyn Jonadab fab Rechab ein cyndad. Dŷn ni erioed wedi yfed gwin

9. nac adeiladu tai, does gynnon ni ddim gwinllannoedd, caeau na chnydau,

10. a dŷn ni bob amser wedi byw mewn pebyll. Dŷn ni wedi gwrando a gwneud yn union beth ddwedodd ein cyndad Jonadab wrthon ni.