beibl.net 2015

Jeremeia 35:10-19 beibl.net 2015 (BNET)

10. a dŷn ni bob amser wedi byw mewn pebyll. Dŷn ni wedi gwrando a gwneud yn union beth ddwedodd ein cyndad Jonadab wrthon ni.

11. Ond pan ddaeth Nebwchadnesar brenin Babilon i ymosod ar y wlad, dyma ni'n penderfynu dianc i Jerwsalem oddi wrth fyddin Babilon a byddin Syria. A dyna pam dŷn ni yma yn Jerwsalem.”

12. Dyma'r ARGLWYDD yn rhoi'r neges yma i Jeremeia:

13. “Dyma mae'r ARGLWYDD holl-bwerus, Duw Israel, am i ti ei ddweud wrth bobl Jwda a'r rhai sy'n byw yn Jerwsalem: ‘Pam wnewch chi ddim dysgu gwers o hyn, a gwrando ar beth dw i'n ddweud?’ meddai'r ARGLWYDD.

14. ‘Roedd Jonadab fab Rechab wedi dweud wrth ei ddisgynyddion am beidio yfed gwin, ac maen nhw wedi gwrando arno. Dŷn nhw erioed wedi yfed gwin. Ond dw i wedi bod yn siarad hefo chi dro ar ôl tro, a dych chi byth yn gwrando arna i.

15. Dw i wedi anfon un proffwyd ar ôl y llall i'ch rhybuddio chi, a dweud, “Rhaid i chi stopio gwneud y pethau drwg dych chi'n eu gwneud. Rhaid i chi newid eich ffyrdd a peidio addoli a gwasanaethu eilun-dduwiau paganaidd, wedyn cewch fyw yn y wlad rois i i chi a'ch hynafiaid.” Ond wnaethoch chi ddim cymryd unrhyw sylw na gwrando ar beth roeddwn i'n ddweud.

16. Mae disgynyddion Jonadab fab Rechab wedi gwneud beth ddwedodd e wrthyn nhw, ond dych chi ddim wedi bod yn ufudd i mi.’

17. Felly, dyma mae'r ARGLWYDD, y Duw holl-bwerus, Duw Israel, yn ei ddweud: ‘Dw i'n mynd i daro pobl Jwda a'r rhai sy'n byw yn Jerwsalem hefo pob dinistr dw i wedi ei fygwth. Dw i wedi siarad hefo nhw a dŷn nhw ddim wedi gwrando. Dw i wedi galw arnyn nhw a dŷn nhw ddim wedi ateb.’”

18. Yna dyma Jeremeia'n dweud wrth y gymuned o Rechabiaid: “Dyma mae'r ARGLWYDD holl-bwerus, Duw Israel, yn ei ddweud: ‘Dych chi wedi gwrando ar orchymyn eich cyndad Jonadab. Dych chi wedi gwneud popeth ddwedodd e wrthych chi ei wneud.’

19. Felly mae'r ARGLWYDD holl-bwerus, Duw Israel, yn dweud hyn: ‘Bydd un o ddisgynyddion Jonadab fab Rechab yn fy ngwasanaethu i bob amser.’”