1. Dyma'r ARGLWYDD yn rhoi neges i Jeremeia yr ail waith (Roedd yn dal yn gaeth yn iard y gwarchodlu ar y pryd):
2. “Fi, yr ARGLWYDD, sy'n gwneud hyn. Dw i'n cyflawni beth dw i'n ei fwriadu. Yr ARGLWYDD ydy fy enw i.
3. Galwa arna i, a bydda i'n ateb. Gwna i ddangos i ti bethau mawr cudd allet ti ddim eu gwybod ohonot dy hun.
4. “Dyma dw i, yr ARGLWYDD, Duw Israel, yn ei ddweud: ‘Mae tai y ddinas yma a hyd yn oed y palasau brenhinol wedi eu chwalu i gael deunydd i amddiffyn rhag y rampiau gwarchae a'r ymosodiadau.
5. Dych chi'n bwriadu ymladd y Babiloniaid, ond bydd y tai yma yn cael eu llenwi hefo cyrff marw. Dw i'n mynd i daro pobl y ddinas yma yn ffyrnig. Dw i wedi troi cefn arnyn nhw am eu bod nhw wedi gwneud cymaint o ddrwg.
6. “‘Ond bydda i yn iacháu'r ddinas yma eto. Dw i'n mynd i'w gwella nhw, a rhoi heddwch a'i cadw nhw'n saff am byth.