beibl.net 2015

Jeremeia 32:8-18 beibl.net 2015 (BNET)

8. A dyna'n union ddigwyddodd. Dyma Chanamel, cefnder i mi, yn dod i'm gweld yn iard y gwarchodlu. Gofynnodd i mi, ‘Wyt ti eisiau prynu'r cae sydd gen i yn Anathoth, yn ardal Benjamin? Ti sydd â'r hawl cyntaf i'w brynu am mai ti ydy'r perthynas agosaf. Pryna fe i ti dy hun.’ Pan ddigwyddodd hyn roeddwn i'n gwybod yn iawn fod yr ARGLWYDD wedi siarad gyda mi.

9. “Felly dyma fi'n prynu'r cae sydd yn Anathoth gan Chanamel, a thalu un deg saith darn arian amdano.

10. Dyma fi'n arwyddo'r gweithredoedd a'i selio o flaen tystion, pwyso'r arian mewn clorian a thalu iddo.

11. Roedd dau gopi o'r gweithredoedd – un wedi ei selio oedd yn cynnwys amodau a thelerau'r cytundeb, a'r llall yn gopi agored. Wedyn dyma fi'n eu rhoi nhw

12. i Barŵch (mab Nereia ac ŵyr i Machseia). Gwnes hyn i gyd o flaen fy nghefnder Chanamel a'r dynion oedd wedi ardystio'r gweithredoedd, a phawb arall o bobl Jwda oedd yn eistedd yn iard y gwarchodlu.

13. Yna dyma fi'n dweud wrth Barŵch o'u blaenau nhw i gyd,

14. ‘Dyma mae'r ARGLWYDD holl-bwerus, Duw Israel, yn ei ddweud: “Cymer y gweithredoedd yma, y copi sydd wedi ei selio a'r un agored, a'i rhoi mewn jar pridd i'w cadw'n saff am amser hir.”

15. Achos dyma mae'r ARGLWYDD holl-bwerus, Duw Israel, yn ei ddweud: “Bydd tai a chaeau a gwinllannoedd yn cael eu prynu yn y wlad yma eto.”’

16. “Ar ôl rhoi'r gweithredoedd i Barŵch dyma fi'n gweddïo ar yr ARGLWYDD:

17. ‘O! Feistr, ARGLWYDD! Ti ydy'r Duw cryf a nerthol sydd wedi creu y nefoedd a'r ddaear. Does dim byd yn rhy anodd i ti ei wneud.

18. Ti'n dangos cariad diddiwedd at filoedd. Ond rwyt ti hefyd yn gadael i blant ddiodde am bechodau eu rhieni. Ti ydy'r Duw mawr, yr Un grymus! Yr ARGLWYDD holl-bwerus ydy dy enw di.