beibl.net 2015

Jeremeia 32:37-44 beibl.net 2015 (BNET)

37. ‘Dw i'n mynd i gasglu fy mhobl yn ôl o'r gwledydd ble gwnes i eu gyrru nhw. Ro'n i wedi gwylltio'n lân hefo nhw. Roeddwn i'n ffyrnig! Ond dw i'n mynd i ddod â nhw'n ôl i'r lle yma, a byddan nhw'n cael byw yma yn hollol saff.

38. Fi fydd eu Duw nhw, a nhw fydd fy mhobl i.

39. Byddan nhw i gyd yn benderfynol o fyw yn ffyddlon i mi bob amser, a bydd hynny'n dda iddyn nhw a'u plant ar eu holau.

40. Bydda i'n gwneud ymrwymiad gyda nhw fydd yn para am byth – ymrwymiad i beidio stopio gwneud daioni iddyn nhw. Bydda i'n plannu ynddyn nhw barch ata i fydd yn dod o waelod calon, a fyddan nhw byth yn troi cefn arna i eto.

41. Bydda i wrth fy modd yn gwneud pethau da iddyn nhw. Bydda i'n eu plannu nhw yn y tir yma eto. Bydda i'n ffyddlon iddyn nhw, ac yn rhoi fy hun yn llwyr i wneud hyn i gyd.’

42. “Ie, dyma dw i, yr ARGLWYDD, yn ei ddweud: ‘Fel y bydda i'n dod â'r dinistr mawr yma arnyn nhw, bydda i wedyn yn dod â'r holl bethau da dw i'n ei addo iddyn nhw.’

43. ‘Ond mae'r wlad yma'n anialwch diffaith,’ meddech chi. ‘Does dim pobl nag anifeiliaid yn byw yma. Mae'r wlad wedi ei choncro gan y Babiloniaid.’ Ond gwrandwch, bydd caeau yn cael eu prynu yn y wlad yma unwaith eto.

44. Bydd caeau yn cael eu prynu a'u gwerthu yma eto, a gweithredoedd yn cael eu harwyddo a'u selio o flaen tystion. Bydd hyn yn digwydd yn nhir Benjamin, yr ardal o gwmpas Jerwsalem, trefi Jwda, yn y bryniau, yn yr iseldir yn y gorllewin a'r Negef yn y de. Bydda i'n rhoi'r cwbl wnaethon nhw ei golli yn ôl iddyn nhw,” meddai'r ARGLWYDD.