beibl.net 2015

Jeremeia 32:31-44 beibl.net 2015 (BNET)

31. ‘Mae'r ddinas yma wedi fy ngwylltio i'n lân o'r diwrnod pan gafodd ei hadeiladu hyd heddiw. Felly rhaid i mi gael gwared â hi.

32. Mae pobl Israel a Jwda wedi fy ngwylltio'n lân drwy wneud cymaint o bethau drwg – nhw a'u brenhinoedd a'u swyddogion, yr offeiriaid a'r proffwydi, pobl Jwda i gyd, a phawb sy'n byw yn Jerwsalem!

33. Maen nhw wedi troi cefn arna i yn lle troi ata i! Dw i wedi ceisio eu dysgu nhw dro ar ôl tro, ond roedden nhw'n gwrthod gwrando a chael eu cywiro.

34. Maen nhw'n llygru fy nheml i drwy osod eilun-dduwiau ffiaidd ynddi.

35. Maen nhw hefyd wedi codi allorau paganaidd i Baal yn Nyffryn Ben-hinnom. Maen nhw'n aberthu eu plant bach i Molech! Wnes i erioed ddweud wrthyn nhw am wneud y fath beth. Fyddai peth felly byth wedi croesi fy meddwl i! Mae wedi gwneud i Jwda bechu yn ofnadwy!’

36. “‘Mae'r rhyfel, a'r newyn a haint yn mynd i arwain at roi'r ddinas yma yn nwylo brenin Babilon,’ meddech chi. Gwir. Ond nawr dw i, yr ARGLWYDD, Duw Israel, am ddweud hyn am y ddinas yma:

37. ‘Dw i'n mynd i gasglu fy mhobl yn ôl o'r gwledydd ble gwnes i eu gyrru nhw. Ro'n i wedi gwylltio'n lân hefo nhw. Roeddwn i'n ffyrnig! Ond dw i'n mynd i ddod â nhw'n ôl i'r lle yma, a byddan nhw'n cael byw yma yn hollol saff.

38. Fi fydd eu Duw nhw, a nhw fydd fy mhobl i.

39. Byddan nhw i gyd yn benderfynol o fyw yn ffyddlon i mi bob amser, a bydd hynny'n dda iddyn nhw a'u plant ar eu holau.

40. Bydda i'n gwneud ymrwymiad gyda nhw fydd yn para am byth – ymrwymiad i beidio stopio gwneud daioni iddyn nhw. Bydda i'n plannu ynddyn nhw barch ata i fydd yn dod o waelod calon, a fyddan nhw byth yn troi cefn arna i eto.

41. Bydda i wrth fy modd yn gwneud pethau da iddyn nhw. Bydda i'n eu plannu nhw yn y tir yma eto. Bydda i'n ffyddlon iddyn nhw, ac yn rhoi fy hun yn llwyr i wneud hyn i gyd.’

42. “Ie, dyma dw i, yr ARGLWYDD, yn ei ddweud: ‘Fel y bydda i'n dod â'r dinistr mawr yma arnyn nhw, bydda i wedyn yn dod â'r holl bethau da dw i'n ei addo iddyn nhw.’

43. ‘Ond mae'r wlad yma'n anialwch diffaith,’ meddech chi. ‘Does dim pobl nag anifeiliaid yn byw yma. Mae'r wlad wedi ei choncro gan y Babiloniaid.’ Ond gwrandwch, bydd caeau yn cael eu prynu yn y wlad yma unwaith eto.

44. Bydd caeau yn cael eu prynu a'u gwerthu yma eto, a gweithredoedd yn cael eu harwyddo a'u selio o flaen tystion. Bydd hyn yn digwydd yn nhir Benjamin, yr ardal o gwmpas Jerwsalem, trefi Jwda, yn y bryniau, yn yr iseldir yn y gorllewin a'r Negef yn y de. Bydda i'n rhoi'r cwbl wnaethon nhw ei golli yn ôl iddyn nhw,” meddai'r ARGLWYDD.