24. Mae rampiau gwarchae wedi eu codi o gwmpas y ddinas, yn barod i'w chymryd hi. Mae'r rhyfela, y newyn a'r haint, yn siŵr o arwain at y ddinas yma'n cael ei choncro gan y Babiloniaid. Fel y gweli, mae popeth yn digwydd yn union fel gwnest ti rybuddio.
25. Ac eto, er fod y Babiloniaid yn mynd i goncro'r ddinas yma, rwyt ti wedi dweud wrtho i am brynu'r cae yma, a chael tystion i wneud y peth yn gyfreithlon.’”
26. Dyma'r ARGLWYDD yn ateb Jeremeia:
27. “Yr ARGLWYDD ydw i, Duw y ddynoliaeth gyfan. Mae'n wir, does dim byd yn rhy anodd i mi ei wneud.
28. Felly, dyma dw i'n ei ddweud: ‘Dw i'n mynd i roi'r ddinas yma yn nwylo'r Babiloniaid. Bydd Nebwchadnesar, brenin Babilon, yn ei choncro.
29. Bydd byddin Babilon yn ymosod ac yn dod i mewn i'r ddinas yma, yn ei rhoi ar dân ac yn ei llosgi'n ulw. Bydd y tai ble buodd pobl yn aberthu i Baal ar eu toeau, ac yn tywallt offrwm o ddiod i dduwiau eraill, yn cael eu llosgi. Roedd pethau fel yna yn fy ngwylltio i.
30. Dydy pobl Israel a Jwda wedi gwneud dim byd ond drwg o'r dechrau cyntaf. Maen nhw wedi fy nigio i drwy addoli eilunod maen nhw eu hunain wedi eu cerfio,’ meddai'r ARGLWYDD.