beibl.net 2015

Jeremeia 32:14-25 beibl.net 2015 (BNET)

14. ‘Dyma mae'r ARGLWYDD holl-bwerus, Duw Israel, yn ei ddweud: “Cymer y gweithredoedd yma, y copi sydd wedi ei selio a'r un agored, a'i rhoi mewn jar pridd i'w cadw'n saff am amser hir.”

15. Achos dyma mae'r ARGLWYDD holl-bwerus, Duw Israel, yn ei ddweud: “Bydd tai a chaeau a gwinllannoedd yn cael eu prynu yn y wlad yma eto.”’

16. “Ar ôl rhoi'r gweithredoedd i Barŵch dyma fi'n gweddïo ar yr ARGLWYDD:

17. ‘O! Feistr, ARGLWYDD! Ti ydy'r Duw cryf a nerthol sydd wedi creu y nefoedd a'r ddaear. Does dim byd yn rhy anodd i ti ei wneud.

18. Ti'n dangos cariad diddiwedd at filoedd. Ond rwyt ti hefyd yn gadael i blant ddiodde am bechodau eu rhieni. Ti ydy'r Duw mawr, yr Un grymus! Yr ARGLWYDD holl-bwerus ydy dy enw di.

19. Ti ydy'r Duw doeth sy'n gwneud pethau rhyfeddol. Ti'n gweld popeth mae pobl yn eu gwneud. Ti sy'n rhoi i bawb beth maen nhw'n ei haeddu am y ffordd maen nhw wedi ymddwyn.

20. Ti wnaeth arwyddion gwyrthiol a phethau rhyfeddol yng ngwlad yr Aifft. Ti'n enwog hyd heddiw yn Israel ac ar hyd a lled y byd am beth wnest ti.

21. Defnyddiaist dy nerth rhyfeddol i ddod â'th bobl Israel allan o wlad yr Aifft, a dychryn y bobl yno gyda'r gwyrthiau mwyaf syfrdanol.

22. Ac wedyn dyma ti'n rhoi'r wlad ffrwythlon yma iddyn nhw – tir lle mae llaeth a mêl yn llifo! Dyna oeddet ti wedi ei addo i'w hynafiaid nhw.

23. Ond pan ddaethon nhw i gymryd y wlad drosodd, wnaethon nhw ddim gwrando arnat ti na byw fel roeddet ti wedi eu dysgu nhw. Wnaethon nhw ddim byd oeddet ti'n ei ddweud. Dyma pam mae'r dinistr yma wedi dod arnyn nhw.

24. Mae rampiau gwarchae wedi eu codi o gwmpas y ddinas, yn barod i'w chymryd hi. Mae'r rhyfela, y newyn a'r haint, yn siŵr o arwain at y ddinas yma'n cael ei choncro gan y Babiloniaid. Fel y gweli, mae popeth yn digwydd yn union fel gwnest ti rybuddio.

25. Ac eto, er fod y Babiloniaid yn mynd i goncro'r ddinas yma, rwyt ti wedi dweud wrtho i am brynu'r cae yma, a chael tystion i wneud y peth yn gyfreithlon.’”