beibl.net 2015

Jeremeia 32:1-9 beibl.net 2015 (BNET)

1. Rhoddodd yr ARGLWYDD neges arall i Jeremeia pan oedd Sedeceia wedi bod yn frenin ar Jwda ers bron ddeg mlynedd. Roedd hi'n flwyddyn un deg wyth o deyrnasiad Nebwchadnesar,

2. ac roedd byddin Babilon yn gwarchae ar Jerwsalem. Roedd Jeremeia yn y ddalfa yn iard y gwarchodlu ym mhalas brenin Jwda.

3. Sedeceia oedd wedi gorchymyn ei gadw yno ar ôl ei holi pam ei fod yn proffwydo fod yr ARGLWYDD yn dweud: “Dw i'n mynd i roi'r ddinas yma i frenin Babilon. Bydd e'n ei choncro hi.

4. Bydd y brenin Sedeceia yn cael ei ddal, a bydd yn cael ei osod i sefyll ei brawf o flaen brenin Babilon a'i wynebu'n bersonol.

5. Yna bydd Sedeceia'n cael ei gymryd i Babilon, a bydd yn aros yno nes bydda i, yr ARGLWYDD, wedi gorffen delio hefo fe. Gallwch ddal ati i ymladd yn erbyn y Babiloniaid, ond wnewch chi ddim ennill!”

6. Dyna pryd dwedodd Jeremeia, “Mae'r ARGLWYDD wedi rhoi'r neges yma i mi:

7. ‘Bydd Chanamel, mab dy ewythr Shalwm, yn dod i dy weld di. Bydd yn gofyn i ti brynu'r cae sydd ganddo yn Anathoth, am mai ti ydy'r perthynas agosaf, ac felly ti sydd â'r hawl cyntaf i'w brynu.’

8. A dyna'n union ddigwyddodd. Dyma Chanamel, cefnder i mi, yn dod i'm gweld yn iard y gwarchodlu. Gofynnodd i mi, ‘Wyt ti eisiau prynu'r cae sydd gen i yn Anathoth, yn ardal Benjamin? Ti sydd â'r hawl cyntaf i'w brynu am mai ti ydy'r perthynas agosaf. Pryna fe i ti dy hun.’ Pan ddigwyddodd hyn roeddwn i'n gwybod yn iawn fod yr ARGLWYDD wedi siarad gyda mi.

9. “Felly dyma fi'n prynu'r cae sydd yn Anathoth gan Chanamel, a thalu un deg saith darn arian amdano.