beibl.net 2015

Jeremeia 31:18-28 beibl.net 2015 (BNET)

18. Dw i wedi clywed pobl Effraim yn dweud yn drist,‘Roedden ni'n wyllt fel tarw ifanc heb ei ddofi.Ti wedi'n disgyblu ni, a dŷn ni wedi dysgu'n gwers.Gad i ni ddod yn ôl i berthynas iawn hefo ti.Ti ydy'r ARGLWYDD ein Duw ni.

19. Roedden ni wedi troi cefn arnat ti,ond bellach dŷn ni wedi troi'n ôl.Ar ôl gweld ein bairoedden ni wedi'n llethu gan alar am fod mor wirion!Roedd gynnon ni gywilydd go iawnam y ffordd roedden ni wedi ymddwyn pan oedden ni'n ifanc.’

20. Yn wir mae pobl Effraim yn dal yn blant i mi!Maen nhw'n blant annwyl yn fy ngolwg i.Er fy mod wedi gorfod eu ceryddu nhw,dw i'n dal yn eu caru nhw.Mae'r teimladau mor gryf yno i,alla i ddim peidio dangos trugaredd atyn nhw.”—yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.

21. O wyryf annwyl Israel! Cofia'r ffordd aethost ti.Gosod arwyddion, a chodi mynegbysti ganfod y ffordd yn ôl.Tyrd yn ôl! Tyrd adrei dy drefi dy hun.

22. Am faint wyt ti'n mynd i oedi,ferch anffyddlon?Mae'r ARGLWYDD yn creu rhywbeth newydd –mae fel benyw yn amddiffyn dyn!

23. Dyma mae'r ARGLWYDD holl-bwerus, Duw Israel yn ei ddweud:“Dw i'n mynd i roi'r cwbl wnaeth pobl Jwda ei golli yn ôl iddyn nhw,a byddan nhw'n dweud eto am Jerwsalem:‘O fynydd cysegredig ble mae cyfiawnder yn byw,boed i'r ARGLWYDD dy fendithio di!’

24. Bydd pobl yn byw gyda'i gilydd yn nhrefi Jwda unwaith eto.Bydd yno ffermwyr a bugeiliaid crwydrol yn gofalu am eu praidd.

25. Bydda i'n rhoi diod i'r rhai sydd wedi blino,ac yn adfywio'r rhai sy'n teimlo'n llesg.”

26. Yn sydyn dyma fi'n deffro ac yn edrych o'm cwmpas. Roeddwn i wedi bod yn cysgu'n braf!

27. “Mae'r amser yn dod,” meddai'r ARGLWYDD, “pan fydd poblogaeth fawr a digonedd o anifeiliaid yn Israel a Jwda unwaith eto.

28. Yn union fel roeddwn i'n gwylio i wneud yn siŵr eu bod nhw'n cael eu tynnu o'r gwraidd a'u chwalu, eu dinistrio a'u bwrw i lawr, yn y dyfodol bydda i'n gwylio i wneud yn siŵr eu bod nhw'n cael eu hadeiladu a'u plannu'n ddiogel,” meddai'r ARGLWYDD.