beibl.net 2015

Jeremeia 31:1-10 beibl.net 2015 (BNET)

1. “Bryd hynny,” meddai'r ARGLWYDD, “fi fydd Duw pob llwyth yn Israel, a byddan nhw yn bobl i mi.”

2. Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud:“Cafodd pobl Israel osgoi'r cleddyfa profi ffafr Duw yn yr anialwch,wrth iddyn nhw chwilio am le i orffwys.

3. Roedd yr ARGLWYDD wedi ymddangos iddo mewn gwlad bell,a dweud, ‘Mae fy nghariad i atat ti yn gariad sy'n para am byth,a dyna pam dw i wedi aros yn ffyddlon i ti.

4. Bydda i'n dy ailadeiladu eto, o wyryf annwyl Israel!Byddi'n gafael yn dy dambwrîn eto,ac yn mynd allan i ddawnsio a joio.

5. Byddi'n plannu gwinllannoeddar fryniau Samaria unwaith eto.A'r rhai fydd yn eu plannufydd yn cael mwynhau eu ffrwyth.

6. Mae'r amser yn dod pan fydd y gwylwyryn gweiddi ar fryniau Effraim:“Dewch! Gadewch i ni fynd i fyny i Seioni addoli'r ARGLWYDD ein Duw.”’”

7. Ie, dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud:“Canwch yn llawen dros bobl Israel,a gweiddi o blaid y wlad bwysicaf.Gweiddi ac addoli gan ddweud,‘Achub dy bobl, o ARGLWYDD,achub y rhai sydd ar ôl o Israel.’

8. ‘Ydw, dw i'n mynd i ddod â nhw o dir y gogledd;dw i'n mynd i'w casglu nhw o ben draw'r byd.Bydd pobl ddall a chloff yn dod gyda nhw;gwragedd beichiog hefyd, a'r rhai sydd ar fin cael plant.Bydd tyrfa fawr yn dod yn ôl yma.

9. Byddan nhw'n dod yn eu dagrau,yn gweddïo wrth i mi eu harwain yn ôl.Bydda i'n eu harwain wrth ymyl afonydd o ddŵrac ar hyd llwybrau gwastad ble byddan nhw ddim yn baglu.Fi ydy tad Israel;Effraim ydy fy mab hynaf.’”

10. Gwrandwch ar neges yr ARGLWYDD, chi'r cenhedloedd i gyd,a'i gyhoeddi yn y gwledydd pell ar yr arfordir a'r ynysoedd:“Bydd yr ARGLWYDD, wnaeth yrru pobl Israel ar chwâl,yn eu casglu eto ac yn gofalu amdanyn nhwfel bugail yn gofalu am ei braidd.”