beibl.net 2015

Jeremeia 30:1-3 beibl.net 2015 (BNET)

1. Dyma neges arall roddodd yr ARGLWYDD i Jeremeia:

2. “Dyma mae'r ARGLWYDD, Duw Israel, yn ei ddweud: ‘Dw i eisiau i ti ysgrifennu popeth dw i'n ei ddweud wrthot ti ar sgrôl.

3. Mae'r amser yn dod,’ meddai'r ARGLWYDD, ‘pan fydda i'n rhoi'r cwbl wnaeth fy mhobl Israel a Jwda ei golli yn ôl iddyn nhw. Dw i'n mynd i ddod â nhw'n ôl i'r wlad rois i i'w hynafiaid. Byddan nhw'n ei chymryd hi'n ôl eto.’”