beibl.net 2015

Jeremeia 3:7-16 beibl.net 2015 (BNET)

7. Hyd yn oed wedyn roeddwn i yn gobeithio y byddai hi'n troi'n ôl ata i. Ond wnaeth hi ddim. Ac roedd Jwda, ei chwaer anffyddlon, wedi gweld y cwbl.

8. Gwelodd fi'n rhoi papurau ysgariad i Israel ac yn ei hanfon hi i ffwrdd am fod yn anffyddlon i mi mor aml, drwy addoli duwiau eraill. Ond wnaeth hynny ddim gwahaniaeth i Jwda. Dyma hithau'n mynd ac yn puteinio yn union yr un fath!

9. Roedd Israel yn cymryd y cwbl mor ysgafn, ac roedd hi wedi llygru'r tir drwy addoli duwiau o bren a charreg.

10. Ond er gwaetha hyn i gyd, dydy Jwda, ei chwaer anffyddlon, ddim wedi troi'n ôl ata i go iawn. Dydy hi ddim ond yn esgus bod yn sori,” meddai'r ARGLWYDD.

11. A dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrtho i, “Roedd Israel chwit-chwat yn well na Jwda anffyddlon!

12. Felly, dos i wledydd y gogledd i ddweud wrth bobl Israel,‘Tro yn ôl ata i, Israel anffyddlon!’ meddai'r ARGLWYDD.‘Dw i ddim yn mynd i edrych yn flin arnat ti o hyn ymlaen.Dw i'n Dduw trugarog!Fydda i ddim yn dal dig am byth.

13. Dim ond i ti gyfaddef dy fai –cyfaddef dy fod wedi gwrthryfelayn erbyn yr ARGLWYDD dy Dduw,a rhoi dy hun i dduwiau eraill dan bob coeden ddeiliog.Cyfaddef dy fod ti ddim wedi gwrando arna i,’ meddai'r ARGLWYDD.

14. “‘Trowch yn ôl ata i, bobl anffyddlon,’ meddai'r ARGLWYDD. ‘Fi ydy'ch gŵr chi go iawn. Bydda i'n eich cymryd chi yn ôl i Seion – bob yn un o'r pentrefi a bob yn ddau o'r gwahanol deuluoedd.

15. Bydda i'n rhoi arweinwyr i chi sy'n ffyddlon i mi. Byddan nhw'n gofalu amdanoch chi'n ddoeth ac yn ddeallus.’

16. Bydd y boblogaeth yn cynyddu eto, a bryd hynny,” meddai'r ARGLWYDD, “fydd pobl ddim yn dweud pethau fel, ‘Mae gynnon ni Arch ymrwymiad yr ARGLWYDD!’ Fydd y peth ddim yn croesi'r meddwl. Fyddan nhw ddim yn ei chofio hi nac yn ei cholli hi! A fydd dim angen gwneud un newydd.