beibl.net 2015

Jeremeia 3:3-13 beibl.net 2015 (BNET)

3. Dyna pam does dim glaw wedi bod,a dim sôn am gawodydd y gwanwyn.Ond roeddet ti mor benstiff â phutainac yn teimlo dim cywilydd o gwbl.

4. Ac eto dyma ti'n galw arna i, ‘Fy nhad!Ti wedi bod yn ffrind agos ers pan o'n i'n ifanc –

5. Wyt ti'n mynd i ddal dig am byth?Wyt ti ddim yn mynd i aros felly, nac wyt?’Ie, dyna beth ti'n ddweud,ond yna'n dal i wneudcymaint o ddrwg ag y medri di!”

6. Pan oedd Joseia yn frenin dwedodd yr ARGLWYDD wrtho i, “Ti wedi gweld beth wnaeth Israel chwit-chwat – mynd i ben pob bryn uchel a gorwedd dan bob coeden ddeiliog a chwarae'r butain drwy addoli duwiau eraill.

7. Hyd yn oed wedyn roeddwn i yn gobeithio y byddai hi'n troi'n ôl ata i. Ond wnaeth hi ddim. Ac roedd Jwda, ei chwaer anffyddlon, wedi gweld y cwbl.

8. Gwelodd fi'n rhoi papurau ysgariad i Israel ac yn ei hanfon hi i ffwrdd am fod yn anffyddlon i mi mor aml, drwy addoli duwiau eraill. Ond wnaeth hynny ddim gwahaniaeth i Jwda. Dyma hithau'n mynd ac yn puteinio yn union yr un fath!

9. Roedd Israel yn cymryd y cwbl mor ysgafn, ac roedd hi wedi llygru'r tir drwy addoli duwiau o bren a charreg.

10. Ond er gwaetha hyn i gyd, dydy Jwda, ei chwaer anffyddlon, ddim wedi troi'n ôl ata i go iawn. Dydy hi ddim ond yn esgus bod yn sori,” meddai'r ARGLWYDD.

11. A dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrtho i, “Roedd Israel chwit-chwat yn well na Jwda anffyddlon!

12. Felly, dos i wledydd y gogledd i ddweud wrth bobl Israel,‘Tro yn ôl ata i, Israel anffyddlon!’ meddai'r ARGLWYDD.‘Dw i ddim yn mynd i edrych yn flin arnat ti o hyn ymlaen.Dw i'n Dduw trugarog!Fydda i ddim yn dal dig am byth.

13. Dim ond i ti gyfaddef dy fai –cyfaddef dy fod wedi gwrthryfelayn erbyn yr ARGLWYDD dy Dduw,a rhoi dy hun i dduwiau eraill dan bob coeden ddeiliog.Cyfaddef dy fod ti ddim wedi gwrando arna i,’ meddai'r ARGLWYDD.