beibl.net 2015

Jeremeia 3:18-25 beibl.net 2015 (BNET)

18. Bryd hynny bydd pobl Jwda a phobl Israel yn teithio yn ôl gyda'i gilydd o'r gaethglud yn y gogledd. Byddan nhw'n dod yn ôl i'r wlad rois i i'w hynafiaid i'w hetifeddu.”

19. “Roeddwn i'n arfer meddwl,‘Dw i'n mynd i dy drin di fel mab!Dw i'n mynd i roi'r tir hyfryd yma i ti –yr etifeddiaeth orau yn y byd i gyd!’Roeddwn i'n arfer meddwly byddet ti'n fy ngalw i ‘Fy nhad’a byth yn troi cefn arna i.

20. Ond yn lle hynny,buoch yn anffyddlon i mi, bobl Israel,fel gwraig sy'n anffyddlon i'w gŵr.”—yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.

21. Mae lleisiau i'w clywed ar ben y bryniau.Sŵn pobl Israel yn crïo ac yn pledio ar eu ‛duwiau‛.Maen nhw wedi anghofio'r ARGLWYDD eu Duwa chrwydro mor bell oddi wrtho!

22. “Dewch yn ôl ata i bobl anffyddlon;gadewch i mi eich gwella chi!”“Iawn! Dyma ni'n dod,” meddai'r bobl.“Ti ydy'r ARGLWYDD ein Duw ni.

23. Dydy eilun-dduwiau'r bryniau yn ddim ond twyll,a'r holl rialtwch wrth addoli ar y mynyddoedd.Yr ARGLWYDD ein Duw ydy'r unig un all achub Israel.

24. Ond mae Baal, y duw ffiaidd yna, wedi llyncu'r cwblwnaeth ein hynafiaid weithio mor galed amdano o'r dechrau– eu defaid a'u gwartheg, eu meibion a'u merched.

25. Gadewch i ni orwedd mewn cywilydd,a'n gwarth fel blanced troson ni.Dŷn ni a'n hynafiaid wedi pechuyn erbyn yr ARGLWYDD ein Duwo'r dechrau cyntaf hyd heddiw.Dŷn ni ddim wedi bod yn ufudd iddo o gwbl.”