beibl.net 2015

Jeremeia 3:14-21 beibl.net 2015 (BNET)

14. “‘Trowch yn ôl ata i, bobl anffyddlon,’ meddai'r ARGLWYDD. ‘Fi ydy'ch gŵr chi go iawn. Bydda i'n eich cymryd chi yn ôl i Seion – bob yn un o'r pentrefi a bob yn ddau o'r gwahanol deuluoedd.

15. Bydda i'n rhoi arweinwyr i chi sy'n ffyddlon i mi. Byddan nhw'n gofalu amdanoch chi'n ddoeth ac yn ddeallus.’

16. Bydd y boblogaeth yn cynyddu eto, a bryd hynny,” meddai'r ARGLWYDD, “fydd pobl ddim yn dweud pethau fel, ‘Mae gynnon ni Arch ymrwymiad yr ARGLWYDD!’ Fydd y peth ddim yn croesi'r meddwl. Fyddan nhw ddim yn ei chofio hi nac yn ei cholli hi! A fydd dim angen gwneud un newydd.

17. Bryd hynny bydd dinas Jerwsalem yn cael ei galw yn orsedd yr ARGLWYDD. Bydd pobl o wledydd y byd i gyd yn dod at ei gilydd yno i addoli'r ARGLWYDD. Fyddan nhw ddim yn dal ati'n ystyfnig i ddilyn y duedd sydd ynddyn nhw i wneud drwg.

18. Bryd hynny bydd pobl Jwda a phobl Israel yn teithio yn ôl gyda'i gilydd o'r gaethglud yn y gogledd. Byddan nhw'n dod yn ôl i'r wlad rois i i'w hynafiaid i'w hetifeddu.”

19. “Roeddwn i'n arfer meddwl,‘Dw i'n mynd i dy drin di fel mab!Dw i'n mynd i roi'r tir hyfryd yma i ti –yr etifeddiaeth orau yn y byd i gyd!’Roeddwn i'n arfer meddwly byddet ti'n fy ngalw i ‘Fy nhad’a byth yn troi cefn arna i.

20. Ond yn lle hynny,buoch yn anffyddlon i mi, bobl Israel,fel gwraig sy'n anffyddlon i'w gŵr.”—yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.

21. Mae lleisiau i'w clywed ar ben y bryniau.Sŵn pobl Israel yn crïo ac yn pledio ar eu ‛duwiau‛.Maen nhw wedi anghofio'r ARGLWYDD eu Duwa chrwydro mor bell oddi wrtho!