beibl.net 2015

Jeremeia 29:7-22 beibl.net 2015 (BNET)

7. Gweithiwch dros heddwch a llwyddiant y ddinas ble dw i wedi mynd â chi'n gaeth. Gweddïwch ar yr ARGLWYDD drosti. Ei llwyddiant hi fydd eich llwyddiant chi.”

8. Achos dyma mae'r ARGLWYDD holl-bwerus, Duw Israel, yn ei ddweud: “Peidiwch gadael i'r proffwydi sydd gyda chi, a'r rhai hynny sy'n dweud ffortiwn, eich twyllo chi. Peidiwch cymryd sylw o'u breuddwydion.

9. Maen nhw'n hawlio eu bod nhw'n siarad drosta i, ond yn dweud celwydd! Wnes i ddim eu hanfon nhw,” meddai'r ARGLWYDD.

10. Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: “Pan fydd Babilon wedi rheoli am saith deg mlynedd bydda i'n cymryd sylw ohonoch chi eto. Dyna pryd y bydda i'n gwneud y pethau da dw i wedi eu haddo, a dod â chi yn ôl yma i'ch gwlad eich hunain.

11. Fi sy'n gwybod beth dw i wedi ei gynllunio ar eich cyfer chi,” meddai'r ARGLWYDD. “Dw i'n bwriadu eich bendithio chi, dim gwneud niwed i chi. Dw i am roi dyfodol llawn gobaith i chi.

12. Byddwch yn galw arna i ac yn gweddïo, a bydda i'n gwrando.

13. Os byddwch chi'n chwilio amdana i o ddifri, â'ch holl galon, byddwch chi'n fy ffeindio i.

14. Bydda i'n gadael i chi ddod o hyd i mi,” meddai'r ARGLWYDD. “Bydda i'n rhoi'r cwbl wnaethoch chi ei golli yn ôl i chi. Bydda i'n eich casglu chi yn ôl o'r holl wledydd wnes i eich gyrru chi i ffwrdd iddyn nhw. Bydda i'n dod â chi adre i'ch gwlad eich hunain.”

15. “Ond mae'r ARGLWYDD wedi rhoi proffwydi i ni yma yn Babilon,” meddech chi.

16. Felly gwrandwch beth mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud am y brenin sy'n eistedd ar orsedd Dafydd yma yn Jerwsalem, ac am eich perthnasau sy'n dal i fyw yma a heb gael eu cymryd i ffwrdd yn gaethion gyda chi:

17. Dyma mae'r ARGLWYDD holl-bwerus yn ei ddweud: “Dw i'n mynd i anfon rhyfel, newyn a haint i'w taro nhw. Byddan nhw fel ffigys ffiaidd sydd ddim ffit i'w bwyta.

18. Dw i'n mynd i anfon rhyfel, newyn a haint i'w taro nhw. Bydd beth fydd yn digwydd iddyn nhw yn dychryn pobl y gwledydd i gyd. Byddan nhw'n enghraifft o wlad wedi ei melltithio. Bydd pethau ofnadwy yn digwydd, pethau fydd yn achosi i bobl chwibanu mewn rhyfeddod. A byddan nhw'n destun sbort i'r gwledydd lle bydda i'n eu hanfon nhw'n gaeth.

19. Bydd hyn yn digwydd am eu bod nhw heb wrando na chymryd sylw o beth dw i wedi ei ddweud dro ar ôl tro drwy fy ngweision y proffwydi,” meddai'r ARGLWYDD.

20. Felly – chi sydd wedi eich gyrru i ffwrdd o Jerwsalem yn gaeth i Babilon – gwrandwch ar neges yr ARGLWYDD.

21. Dyma mae'r ARGLWYDD holl-bwerus, Duw Israel, yn ei ddweud am Ahab fab Colaia a Sedeceia fab Maaseia sy'n proffwydo celwydd ac yn hawlio eu bod nhw'n siarad drosta i: “Dw i'n mynd i'w rhoi nhw yn nwylo Nebwchadnesar, brenin Babilon, a bydd e'n eu lladd nhw o'ch blaenau chi.

22. Bydd gan bobl Jwda sy'n gaeth yn Babilon y dywediad yma wrth felltithio rhywun: ‘Boed i'r ARGLWYDD dy wneud di fel Sedeceia ac Ahab, gafodd eu llosgi'n fyw gan frenin Babilon!’