beibl.net 2015

Jeremeia 29:24-32 beibl.net 2015 (BNET)

24. Yna dywed wrth Shemaia o Nechelam:

25. Dyma mae'r ARGLWYDD holl-bwerus, Duw Israel yn ei ddweud: “Anfonaist lythyrau ar dy liwt dy hun at y bobl sydd yn Jerwsalem, ac at Seffaneia fab Maaseia a'r offeiriaid eraill i gyd, yn dweud fel hyn,

26. ‘Mae'r ARGLWYDD wedi dy wneud di'n offeiriad yn lle Jehoiada, i fod yn gyfrifrifol am beth sy'n digwydd yn y deml. Ac mae rhyw wallgofddyn yn dod yno a chymryd arno ei fod yn broffwyd. Dylet ei ddal a rhoi coler haearn a chyffion arno.

27. Dylet ti fod wedi ceryddu Jeremeia o Anathoth am gymryd arno ei fod yn broffwyd.

28. Mae e wedi anfon neges aton ni yn Babilon, yn dweud, “Dych chi'n mynd i fod yna am amser hir. Adeiladwch dai a setlo i lawr. Plannwch erddi a bwyta'r hyn sy'n tyfu ynddyn nhw.”’”

29. Darllenodd Seffaneia'r offeiriad y llythyr i Jeremeia.

30. A dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Jeremeia,

31. “Anfon y neges yma at y bobl sydd wedi eu cymryd yn gaeth i Babilon: ‘Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud am Shemaia o Nechelam: “Mae Shemaia yn siarad fel petai'n broffwyd, ond wnes i ddim ei anfon e. Mae e wedi gwneud i chi gredu celwydd!”

32. Felly, dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: “Dw i'n mynd i gosbi Shemaia a'i deulu. Fydd neb ohonyn nhw'n cael byw i weld y pethau da dw i'n mynd i'w gwneud i'm pobl. Fi, yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn. Mae e wedi annog pobl i wrthryfela yn fy erbyn i.”’”