beibl.net 2015

Jeremeia 28:3-14 beibl.net 2015 (BNET)

3. Mewn llai na dwy flynedd dw i'n mynd i ddod â phopeth wnaeth Nebwchadnesar brenin Babilon ei gymryd oddi yma yn ôl.

4. Dw i hefyd yn mynd i ddod â Jehoiachin fab Jehoiacim, brenin Jwda, yn ôl, a phawb arall gafodd eu cymryd yn gaeth i Babilon.’ Mae'r ARGLWYDDyn dweud, ‘Dw i'n mynd i dorri iau brenin Babilon.’”

5. A dyma'r proffwyd Jeremeia yn ateb y proffwyd Hananeia, o flaen yr offeiriaid a phawb arall oedd yn y deml.

6. “Amen! Boed i'r ARGLWYDD wneud hynny! Boed i'r ARGLWYDD ddod â dy broffwydoliaeth di yn wir! O na fyddai'n gwneud hynny, a dod â holl offer y deml yn ôl o Babilon, a'r bobl gafodd eu cymryd yno'n gaeth hefyd!

7. Ond na, gwrando di nawr ar beth sydd gen i i'w ddweud wrthot ti a'r bobl yma i gyd.

8. Ers amser maith mae'r proffwydi ddaeth o dy flaen di a fi wedi proffwydo fod rhyfel, trychinebau a heintiau yn mynd i daro llawer o wledydd a theyrnasoedd mawr.

9. Os oedd proffwyd yn proffwydo y byddai popeth yn iawn, yr unig ffordd i wybod os oedd yr ARGLWYDD wedi ei anfon oedd pan fyddai ei neges yn dod yn wir.”

10. Yna dyma'r proffwyd Hananeia yn cymryd yr iau oddi ar war Jeremeia a'i dorri.

11. A dyma Hananeia yn datgan o flaen pawb: “Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: ‘Mewn llai na dwy flynedd dw i'n mynd i dynnu iau Nebwchadnesar, brenin Babilon, oddi ar war y gwledydd i gyd, a'i dorri.’” Yna dyma'r proffwyd Jeremeia yn mynd i ffwrdd.

12. Yn fuan ar ôl i Hananeia dorri'r iau oedd ar war Jeremeia, dyma'r ARGLWYDD yn rhoi'r neges yma i Jeremeia:

13. “Dos i ddweud wrth Hananeia fod yr ARGLWYDD yn dweud: ‘Ti wedi torri'r iau pren dim ond i roi un haearn yn ei le!

14. Dyma mae'r ARGLWYDD holl-bwerus, Duw Israel, yn ei ddweud: “Dw i wedi rhoi iau haearn ar war y gwledydd yma i gyd. Bydd rhaid iddyn nhw wasanaethu Nebwchadnesar, brenin Babilon. Bydd hyd yn oed yr anifeiliaid gwylltion yn ei wasanaethu e!”’”