beibl.net 2015

Jeremeia 28:14-17 beibl.net 2015 (BNET)

14. Dyma mae'r ARGLWYDD holl-bwerus, Duw Israel, yn ei ddweud: “Dw i wedi rhoi iau haearn ar war y gwledydd yma i gyd. Bydd rhaid iddyn nhw wasanaethu Nebwchadnesar, brenin Babilon. Bydd hyd yn oed yr anifeiliaid gwylltion yn ei wasanaethu e!”’”

15. Yna dyma'r proffwyd Jeremeia yn dweud wrth Hananeia, “Gwranda, Hananeia. Dydy'r ARGLWYDD ddim wedi dy anfon di. Ti'n gwneud i'r bobl yma gredu celwydd!

16. Felly, dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: ‘Mae hi ar ben arnat ti! Ti'n mynd i farw cyn diwedd y flwyddyn yma, am dy fod ti wedi annog pobl i wrthryfela yn erbyn yr ARGLWYDD.’”

17. Ar flwyddyn honno cyn pen deufis roedd y proffwyd Hananeia wedi marw.