beibl.net 2015

Jeremeia 27:1-8 beibl.net 2015 (BNET)

1. Yn fuan ar ôl i Sedeceia fab Joseia ddod yn frenin ar Jwda dyma'r ARGLWYDD yn rhoi'r neges yma i Jeremeia:

2. Dyma ddwedodd yr ARGLWYDD wrtho i: “Gwna iau i ti dy hun, a'i rwymo am dy wddf gyda strapiau lledr.

3. Wedyn anfon neges at frenhinoedd Edom, Moab, Ammon, Tyrus a Sidon. Rho'r neges i'r llysgenhadon maen nhw wedi eu hanfon at y brenin Sedeceia yn Jerwsalem.

4. Dyma'r neges: ‘Mae Duw Israel, yr ARGLWYDD holl-bwerus, yn dweud,

5. “Fi ydy'r Duw wnaeth greu y ddaear a'r holl bobl ac anifeiliaid sydd arni. Dw i'n Dduw cryf a nerthol, a fi sy'n dewis pwy sy'n ei rheoli.

6. Dw i wedi penderfynu rhoi eich gwledydd chi i gyd yn nwylo fy ngwas, y brenin Nebwchadnesar o Babilon. Mae hyd yn oed yr anifeiliaid gwylltion yn ei wasanaethu e!

7. Bydd y gwledydd i gyd yn ei wasanaethu e, a'i fab a'i ŵyr. Ond wedyn bydd yr amser yn dod pan fydd ei wlad e'n syrthio, a bydd nifer o wledydd eraill a brenhinoedd mawrion yn gorchfygu Babilon ac yn ei rheoli hi.

8. “‘“Ond beth os bydd gwlad neu deyrnas yn gwrthod ymostwng i Nebwchadnesar, brenin Babilon? Beth fydd yn digwydd i'r wlad sy'n gwrthod rhoi ei gwar dan iau Babilon? Bydda i fy hun yn ei chosbi! Bydda i'n anfon rhyfel, newyn a haint, nes bydd Babilon wedi eu dinistrio nhw yn llwyr.