beibl.net 2015

Jeremeia 26:19-24 beibl.net 2015 (BNET)

19. Wnaeth Heseceia a phobl Jwda roi Micha i farwolaeth? Naddo! Dangosodd Heseceia barch at yr ARGLWYDD a crefu arno i fod yn garedig wrthyn nhw. Wedyn wnaeth yr ARGLWYDD ddim eu dinistrio nhw fel roedd e wedi bygwth gwneud. Ond dŷn ni mewn peryg o wneud drwg mawr i ni'n hunain!”

20. Roedd yna ddyn arall o'r enw Wreia fab Shemaia o Ciriath-iearim yn proffwydo ar ran yr ARGLWYDD. Roedd e hefyd wedi proffwydo yn erbyn y ddinas yma a'r wlad, yn union yr un fath â Jeremeia.

21. Pan glywodd y brenin Jehoiacim a'i warchodwyr a'i swyddogion beth oedd y proffwyd yn ei ddweud, roedd yn mynd i'w ladd. Ond dyma Wreia'n clywed am y bwriad a dyma fe'n dianc am ei fywyd i'r Aifft.

22. Dyma'r brenin Jehoiacim yn anfon dynion i'r Aifft i'w ddal (Roedd Elnathan fab Achbor yn un ohonyn nhw),

23. a dyma nhw'n dod ag Wreia yn ôl yn garcharor at y brenin Jehoiacim. Dyma Jehoiacim yn gorchymyn ei ladd gyda'r cleddyf, a chafodd ei gorff ei gladdu ym mynwent y bobl gyffredin.

24. Ond roedd Achicam fab Shaffan o blaid Jeremeia, a gwrthododd drosglwyddo Jeremeia i'r bobl i gael ei ladd.