beibl.net 2015

Jeremeia 26:14-24 beibl.net 2015 (BNET)

14. Ond dw i'n eich dwylo chi. Gwnewch chi beth bynnag dych chi'n feddwl sy'n iawn.

15. Ond deallwch hyn: Os gwnewch chi fy lladd i, byddwch yn tywallt gwaed dyn dieuog. Byddwch chi a'r ddinas yma a'i phobl yn gyfrifol am wneud hynny. Achos y ffaith ydy mai'r ARGLWYDD sydd wedi fy anfon i i'ch rhybuddio chi.”

16. Dyma'r swyddogion a'r bobl yn dweud wrth yr offeiriaid a'r proffwydi, “Dydy'r dyn yma ddim yn haeddu marw. Mae e wedi siarad ar ran yr ARGLWYDD ein Duw.”

17. A dyma rai o arweinwyr hŷn Jwda yn codi a dweud wrth y dyrfa o bobl oedd yno,

18. “Pan oedd Heseceia yn frenin ar Jwda, roedd Micha o Moresheth wedi proffwydo ac wedi dweud wrth y bobl,‘Dyma mae'r ARGLWYDD holl-bwerus yn ei ddweud:Bydd Seion yn cael ei haredig fel cae,a bydd Jerwsalem yn bentwr o gerrig.Bydd y bryn ble mae'r deml yn sefyll,yn goedwig wedi tyfu'n wyllt.’

19. Wnaeth Heseceia a phobl Jwda roi Micha i farwolaeth? Naddo! Dangosodd Heseceia barch at yr ARGLWYDD a crefu arno i fod yn garedig wrthyn nhw. Wedyn wnaeth yr ARGLWYDD ddim eu dinistrio nhw fel roedd e wedi bygwth gwneud. Ond dŷn ni mewn peryg o wneud drwg mawr i ni'n hunain!”

20. Roedd yna ddyn arall o'r enw Wreia fab Shemaia o Ciriath-iearim yn proffwydo ar ran yr ARGLWYDD. Roedd e hefyd wedi proffwydo yn erbyn y ddinas yma a'r wlad, yn union yr un fath â Jeremeia.

21. Pan glywodd y brenin Jehoiacim a'i warchodwyr a'i swyddogion beth oedd y proffwyd yn ei ddweud, roedd yn mynd i'w ladd. Ond dyma Wreia'n clywed am y bwriad a dyma fe'n dianc am ei fywyd i'r Aifft.

22. Dyma'r brenin Jehoiacim yn anfon dynion i'r Aifft i'w ddal (Roedd Elnathan fab Achbor yn un ohonyn nhw),

23. a dyma nhw'n dod ag Wreia yn ôl yn garcharor at y brenin Jehoiacim. Dyma Jehoiacim yn gorchymyn ei ladd gyda'r cleddyf, a chafodd ei gorff ei gladdu ym mynwent y bobl gyffredin.

24. Ond roedd Achicam fab Shaffan o blaid Jeremeia, a gwrthododd drosglwyddo Jeremeia i'r bobl i gael ei ladd.