beibl.net 2015

Jeremeia 26:10-16 beibl.net 2015 (BNET)

10. Pan glywodd swyddogion Jwda beth oedd yn digwydd, dyma nhw'n rhuthro draw o'r palas brenhinol i deml yr ARGLWYDD ac yn cynnal achos llys wrth y Giât Newydd.

11. Dyma'r offeiriaid a'r proffwydi yn dweud wrth y llys a'r bobl beth oedd y cyhuddiad yn erbyn Jeremeia, “Rhaid dedfrydu'r dyn yma i farwolaeth! Mae wedi proffwydo yn erbyn y ddinas yma. Dych chi wedi ei glywed eich hunain.”

12. Yna dyma Jeremeia yn amddiffyn ei hun: “Yr ARGLWYDD sydd wedi fy anfon i, a dweud wrtho i am broffwydo popeth ydych chi wedi fy nghlywed i'n ei ddweud yn erbyn y deml a'r ddinas yma.

13. Rhaid i chi newid eich ffyrdd, a gwneud beth mae'r ARGLWYDD eich Duw yn ei ddweud. Os gwnewch chi hynny, fydd e ddim yn eich dinistrio chi fel roedd e wedi bygwth gwneud.

14. Ond dw i'n eich dwylo chi. Gwnewch chi beth bynnag dych chi'n feddwl sy'n iawn.

15. Ond deallwch hyn: Os gwnewch chi fy lladd i, byddwch yn tywallt gwaed dyn dieuog. Byddwch chi a'r ddinas yma a'i phobl yn gyfrifol am wneud hynny. Achos y ffaith ydy mai'r ARGLWYDD sydd wedi fy anfon i i'ch rhybuddio chi.”

16. Dyma'r swyddogion a'r bobl yn dweud wrth yr offeiriaid a'r proffwydi, “Dydy'r dyn yma ddim yn haeddu marw. Mae e wedi siarad ar ran yr ARGLWYDD ein Duw.”