beibl.net 2015

Jeremeia 25:1-14 beibl.net 2015 (BNET)

1. Cafodd Jeremeia neges gan yr ARGLWYDD am bobl Jwda yn ystod y bedwaredd flwyddyn pan oedd Jehoiacim fab Joseia yn frenin ar Jwda (oedd hefyd y flwyddyn y cafodd Nebwchadnesar ei wneud yn frenin Babilon).

2. Dyma ddwedodd y proffwyd Jeremeia wrth bobl Jwda a'r rhai oedd yn byw yn Jerwsalem:

3. “Mae'r ARGLWYDD wedi bod yn siarad hefo fi ers dau ddeg tair o flynyddoedd – o'r adeg pan oedd Joseia fab Amon wedi bod yn frenin am un deg a tair o flynyddoedd hyd heddiw. Dw i wedi dweud wrthoch chi dro ar ôl tro beth oedd ei neges, ond dych chi ddim wedi gwrando.

4. Ac mae'r ARGLWYDD wedi dal ati i anfon ei weision y proffwydi atoch chi. Ond dych chi ddim wedi gwrando na chymryd unrhyw sylw.

5. Y neges oedd, ‘Rhaid i bob un ohonoch chi stopio gwneud y pethau drwg dych chi'n eu gwneud, wedyn byddwch chi'n cael aros yn y wlad roddodd yr ARGLWYDD i chi a'ch hynafiaid am byth bythoedd.

6. Stopiwch addoli a gwasanaethu duwiau eraill, a'm gwylltio i drwy blygu i eilunod dych chi eich hunain wedi eu cerfio. Wedyn fydda i'n gwneud dim drwg i chi.

7. “‘Ond wnaethoch chi ddim gwrando arna i,’ meddai'r ARGLWYDD. ‘Dych chi wedi fy ngwylltio i gyda'ch eilunod. Dych chi wedi dod â drwg arnoch chi'ch hunain.’

8. “Felly dyma mae'r ARGLWYDD holl-bwerus yn ei ddweud: ‘Dych chi ddim wedi gwrando arna i.

9. Felly, dyma dw i, yr ARGLWYDD, yn mynd i'w wneud: Dw i'n mynd i anfon am bobloedd y gogledd, ac am fy ngwas i, Nebwchadnesar brenin Babilon. Dw i'n mynd i'w cael nhw i ymosod ar y wlad yma a'i phobl ac ar y gwledydd o'i chwmpas hefyd. Dw i'n mynd i'w dinistrio nhw'n llwyr. Bydd pethau ofnadwy yn digwydd yma. Fydd pobl ddim yn stopio rhyfeddu at y llanast.

10. Bydda i'n rhoi taw ar sŵn pobl yn chwerthin a joio, ac yn mwynhau eu hunain mewn parti priodas. Fydd dim sŵn maen melin yn troi, a dim golau lamp i'w weld yn y tai.

11. Bydd y wlad yn anialwch diffaith. A bydd y gwledydd yn gorfod gwasanaethu brenin Babilon am saith deg mlynedd.

12. “‘Ar ddiwedd y saith deg mlynedd bydda i'n cosbi brenin Babilon a'i wlad am y drwg wnaethon nhw. Bydd gwlad y Babiloniaid yn cael ei dinistrio am byth.

13. Bydd popeth wnes i ei fygwth yn digwydd iddi – popeth sydd wedi ei ysgrifennu yn y llyfr yma, sef beth mae Jeremeia wedi ei broffwydo yn erbyn y gwledydd i gyd.

14. Bydd brenin a phobl Babilon yn gorfod gwasanaethu brenhinoedd a gwledydd eraill. Bydda i'n talu'n ôl iddyn nhw am beth wnaethon nhw.’”