beibl.net 2015

Jeremeia 23:26-34 beibl.net 2015 (BNET)

26. Am faint mae'n rhaid i hyn fynd ymlaen? Am faint maen nhw'n mynd i ddal ati i ddweud celwydd? Maen nhw'n twyllo eu hunain! Ydyn nhw'n mynd i newid rywbryd?

27. Am faint maen nhw'n mynd i rannu eu breuddwydion gyda'i gilydd, a cheisio cael fy mhobl i anghofio pwy ydw i? Dyna beth wnaeth eu hynafiaid – anghofio amdana i ac addoli'r duw Baal.

28. Gadewch i'r proffwyd gafodd freuddwydei rhannu fel breuddwyd.Ond dylai'r un dw i wedi rhoi neges iddogyhoeddi'r neges yna'n ffyddlon.”“Allwch chi ddim cymharu'r gwellt gyda'r grawn!”meddai'r ARGLWYDD.

29. “Mae fy neges i fel tân yn llosgi,”meddai'r ARGLWYDD.“Mae fel gordd yn dryllio carreg.”

30. “Felly, dw i eisiau i chi ddeall fy mod i yn erbyn y proffwydi hynny sy'n dwyn y neges gan ei gilydd,” meddai'r ARGLWYDD.

31. “Dw i yn erbyn y proffwydi hynny sy'n dweud beth maen nhw eisiau, ac yna'n honni, ‘Dyma beth mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud …’

32. Dw i eisiau i chi ddeall,” meddai'r ARGLWYDD, “fy mod i yn erbyn y proffwydi hynny sy'n cyhoeddi'r celwydd maen nhw wedi ei ddychmygu. Maen nhw'n camarwain fy mhobl gyda'u celwyddau a'u honiadau anghyfrifol. Wnes i ddim eu hanfon nhw na dweud wrthyn nhw beth i'w wneud. Dŷn nhw ddim yn helpu'r bobl yma o gwbl,” meddai'r ARGLWYDD.

33. Yna dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrtho i, “Jeremeia, pan mae'r bobl yma, neu broffwyd neu offeiriad, yn gofyn i ti, ‘Beth ydy'r baich mae'r ARGLWYDD yn ei roi arnon ni nawr?’ dywed wrthyn nhw, ‘Chi ydy'r baich, a dw i'n mynd i'ch taflu chi i ffwrdd,’

34. Ac os bydd proffwyd, offeiriad, neu unrhyw un arall yn dweud, ‘Mae'r ARGLWYDD yn rhoi baich trwm arnon ni,’ bydda i'n cosbi'r dyn hwnnw a'i deulu.