beibl.net 2015

Jeremeia 23:15-22 beibl.net 2015 (BNET)

15. Felly, dyma mae'r ARGLWYDD holl-bwerus yn ei ddweud am y proffwydi:“Dw i'n mynd i wneud i'r bobl yma ddioddef yn chwerw,ac yfed dŵr gwenwynig barn.Mae proffwydi Jerwsalem yn gyfrifolam ledu annuwioldeb drwy'r wlad i gyd.”

16. Dyma mae'r ARGLWYDD holl-bwerus yn ei ddweud:“Peidiwch gwrando ar beth mae'r proffwydi yna'n ei ddweud –maen nhw'n eich twyllo gyda'u gobaith gwag.Maen nhw'n rhannu eu ffantasïauyn lle beth mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud.

17. Maen nhw'n dal ati i ddweudwrth y rhai sy'n ddirmygus ohono i,‘Mae'r ARGLWYDD yn dweud y bydd popeth yn iawn!’Maen nhw'n dweud wrth y rhai sy'n ystyfnig,‘Fydd dim byd drwg yn digwydd i chi.’

18. Ond prun ohonyn nhw sy'n gwybod cynlluniau'r ARGLWYDD,ac wedi clywed a deall beth mae e'n ddweud?Prun ohonyn nhw sydd wedi gwrando arno?”

19. Gwyliwch chi! Bydd yr ARGLWYDD yn ddig.Bydd yn dod fel storm.Bydd fel corwynt dinistriol yn disgyn ar y rhai drwg.

20. Fydd llid yr ARGLWYDD ddim yn tawelunes bydd wedi gwneud popeth mae'n bwriadu ei wneud.Byddwch chi'n dod i ddeall y peth yn iawn ryw ddydd.

21. “Wnes i ddim anfon y proffwydi yma,ond roedden nhw'n rhedeg i gyhoeddi eu neges.Wnes i ddim rhoi neges iddyn nhw,ond roedden nhw'n dal i broffwydo.

22. Petaen nhw wedi sefyll o'm blaen a gwrando,bydden nhw wedi cyhoeddi fy neges i'm pobl.Bydden nhw wedi gwneud iddyn nhw droi cefn ar ddrwg.”