beibl.net 2015

Jeremeia 21:2-8 beibl.net 2015 (BNET)

2. “Wnei di ofyn i'r ARGLWYDD ein helpu ni?” medden nhw. “Mae Nebwchadnesar, brenin Babilon, ar fin ymosod arnon ni. Falle y bydd yr ARGLWYDD yn gwneud gwyrth fel yn y gorffennol, ac yn ei anfon i ffwrdd oddi wrthon ni.”

3. A dyma oedd ateb Jeremeia: “Dyma mae'r ARGLWYDD, Duw Israel, yn ei ddweud:

4. ‘Mae dy fyddin wedi mynd allan i ymladd yn erbyn byddin brenin Babilon, ond dw i'n mynd i wneud iddyn nhw droi yn ôl. Bydda i'n dod â nhw yn ôl i'r ddinas yma.

5. Dw i'n wyllt, ac wedi digio'n fawr hefo chi, a dw i fy hun yn mynd i ymladd yn eich erbyn chi gyda'm holl nerth a'm grym.

6. Dw i'n mynd i daro popeth byw yn y ddinas yma – yn bobl ac anifeiliaid. Byddan nhw'n marw o haint erchyll.

7. Wedyn,’ meddai'r ARGLWYDD, ‘bydda i'n rhoi Sedeceia, brenin Jwda (a'i swyddogion a phawb arall fydd yn dal yn fyw, ar ôl yr haint y rhyfel a'r newyn) yn nwylo Nebwchadnesar, brenin Babilon. Bydd eu gelynion yn eu dal nhw, ac yn eu lladd â'r cleddyf. Fyddan nhw'n dangos dim piti. Fydd neb yn cael eu harbed. Fydd dim trugaredd o gwbl!’

8. “Yna dywed wrth bobl Jerwsalem mai dyma dw i, yr ARGLWYDD, yn ei ddweud wrthyn nhw: ‘Dw i'n rhoi dewis i chi – ffordd bywyd neu ffordd marwolaeth.