beibl.net 2015

Jeremeia 2:25-36 beibl.net 2015 (BNET)

25. Paid gadael i dy esgidiau dreulioa dy wddf sychu yn rhedeg ar ôl duwiau eraill.Ond meddet ti, ‘Na! Does dim pwynt!Dw i'n caru'r duwiau eraill yna,a dw i am fynd ar eu holau nhw eto.’

26. Fel lleidr, dydy Israel ond yn teimlo cywilyddpan mae wedi cael ei dal!Brenhinoedd a swyddogion, offeiriaid a phroffwydi– maen nhw i gyd yr un fath.

27. Maen nhw'n dweud wrth ddarn o bren, ‘Ti ydy fy nhad i!’ac wrth garreg, ‘Ti ydy fy mam, ddaeth â fi i'r byd!’Ydyn, maen nhw wedi troi cefn arna iyn lle troi ata i.Ond wedyn, pan maen nhw mewn trafferthionmaen nhw'n gweiddi arna i, ‘Tyrd, achub ni!’

28. Felly ble mae'r duwiau wyt ti wedi eu gwneud i ti dy hun?Gad iddyn nhw ddod i dy achub di, os gallan nhw,pan wyt ti mewn trafferthion!Wedi'r cwbl, Jwda, mae gen ti gymaint o dduwiauag sydd gen ti o drefi!

29. Pam ydych chi'n rhoi'r bai arna i?Chi ydy'r rhai sydd wedi gwrthryfela yn fy erbyn i.”—yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.

30. “Dyma fi'n cosbi dy bobl, ond doedd dim pwynt;doedden nhw ddim yn fodlon cael eu cywiro.Chi eich hunain laddodd eich proffwydifel llew ffyrnig yn ymosod ar ei brae.”

31. Bobl, gwrandwch beth mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud!“Ydw i wedi bod fel anialwch i Israel?Ydw i wedi bod fel tir tywyll i chi?Felly pam mae fy mhobl yn dweud,‘Dŷn ni'n rhydd i wneud beth leiciwn niDŷn ni ddim am droi atat byth eto’?

32. Ydy merch ifanc yn anghofio gwisgo ei thlysau?Ydy priodferch yn anghofio ei gwisg briodas?Na! – Ond mae fy mhobl wedi fy anghofio iers gormod o flynyddoedd i'w cyfri.

33. Ti'n un da iawnam redeg ar ôl dy gariadon.Byddai'r butain fwya profiadolyn dysgu lot fawr gen ti!

34. Ar ben hynny mae olion gwaedy tlawd a'r diniwed ar eich dillad,er eich bod chi ddim wedi eu dal nhwyn torri i mewn i'ch tai.Ac eto, er gwaetha'r cwbl

35. ti'n dal i ddweud,‘Dw i wedi gwneud dim byd o'i le;does bosib ei fod e'n dal yn ddig hefo fi!’Gwylia dy hun! Dw i'n mynd i dy farnu diam ddweud, ‘Dw i ddim wedi pechu.’

36. Pam wyt ti'n ei chael hi mor hawdd i newid ochr?Gofyn am help un, ac wedyn y llall!Byddi di'n cael dy siomi gan yr Aifftyn union fel y cest ti dy siomi gan Asyria.