beibl.net 2015

Jeremeia 2:22-28 beibl.net 2015 (BNET)

22. Gelli drïo defnyddio powdr golchia llwythi o sebon i geisio ymolchi,ond dw i'n dal i weld staen dy euogrwydd di.”—Y Meistr, yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.

23. “Sut elli di ddweud, ‘Dw i ddim yn aflan.Wnes i ddim addoli duwiau Baal’?Meddylia beth wnest ti yn y dyffryn!Rwyt fel camel ifanc yn rhuthro i bob cyfeiriada ddim yn gwybod ble i droi!

24. Rwyt fel asen wyllt wedi ei magu yn yr anialwchyn sniffian yr awyr am gymar pan mae'n amser paru.Does dim modd ei dal hi'n ôl pan mae'r nwyd yna.Does dim rhaid i'r asynnod flino yn rhedeg ar ei hôl,mae hi yna'n disgwyl amdanyn nhw adeg paru.

25. Paid gadael i dy esgidiau dreulioa dy wddf sychu yn rhedeg ar ôl duwiau eraill.Ond meddet ti, ‘Na! Does dim pwynt!Dw i'n caru'r duwiau eraill yna,a dw i am fynd ar eu holau nhw eto.’

26. Fel lleidr, dydy Israel ond yn teimlo cywilyddpan mae wedi cael ei dal!Brenhinoedd a swyddogion, offeiriaid a phroffwydi– maen nhw i gyd yr un fath.

27. Maen nhw'n dweud wrth ddarn o bren, ‘Ti ydy fy nhad i!’ac wrth garreg, ‘Ti ydy fy mam, ddaeth â fi i'r byd!’Ydyn, maen nhw wedi troi cefn arna iyn lle troi ata i.Ond wedyn, pan maen nhw mewn trafferthionmaen nhw'n gweiddi arna i, ‘Tyrd, achub ni!’

28. Felly ble mae'r duwiau wyt ti wedi eu gwneud i ti dy hun?Gad iddyn nhw ddod i dy achub di, os gallan nhw,pan wyt ti mewn trafferthion!Wedi'r cwbl, Jwda, mae gen ti gymaint o dduwiauag sydd gen ti o drefi!