beibl.net 2015

Jeremeia 17:8-17 beibl.net 2015 (BNET)

8. Byddan nhw'n gryf fel coeden wedi ei phlannu ar lan afon,a'i gwreiddiau'n ymwthio i'r dŵr.Dydy'r gwres crasboeth yn poeni dim arni hi;mae ei dail yn aros yn wyrdd.A does dim lle i boeni pan ddaw blwyddyn o sychder;bydd ei ffrwyth yn dal i dyfu arni.

9. Oes rhywun yn deall y galon ddynol?Mae'n fwy twyllodrus na dim,a does dim gwella arni.

10. Dw i, yr ARGLWYDD, yn chwilio'r galonac yn gwybod beth sydd ar feddyliau pobl.Dw i'n rhoi i bawb beth mae'n nhw'n ei haedduam y ffordd maen nhw wedi ymddwyn.

11. Mae pobl sy'n gwneud arian drwy dwyllfel petrisen yn eistedd ar wyau wnaeth hi mo'i dodwy.Byddan nhw'n colli'r cwbl yn annisgwyl,ac yn dangos yn y diwedd mai ffyliaid oedden nhw.”

12. “ARGLWYDD, ti sydd ar dy orsedd wychsy'n uchel o'r dechrau cyntaf:ti ydy'r lle saff i ni droi!

13. ARGLWYDD, ti ydy gobaith Israel,a bydd pawb sy'n troi cefn arnat tiyn cael eu cywilyddio.Byddan nhw'n cael eu cofrestru ym myd y meirwam iddyn nhw droi cefn arna i, yr ARGLWYDD,y ffynnon o ddŵr glân croyw.”

14. “ARGLWYDD, dim ond ti sy'n gallu fy iacháu;dim ond ti sy'n gallu fy achub.Ti ydy'r un dw i'n ei foli!

15. Gwrando beth maen nhw'n ddweud wrtho i!‘Beth am y neges yma gest ti gan yr ARGLWYDD?Tyrd! Gad i ni ei weld yn digwydd!’

16. Gwnes i dy annog i atal y dinistr.Doedd gen i ddim eisiau gweldy diwrnod o drwbwl di-droi-nôl yn cyrraedd.Ti'n gwybod yn iawn beth ddywedais i.Roedd y cwbl yn agored o dy flaen di.

17. Paid dychryn fi;ti ydy'r lle saff i mi guddio pan mae pethau'n ddrwg arna i.