beibl.net 2015

Jeremeia 17:1-5 beibl.net 2015 (BNET)

1. “Mae pechod pobl Jwda wedi ei gerfiogyda chun haearn ar lech eu calonnau.Mae fel arysgrif wedi ei grafugyda diemwnt ar y cyrn ar gorneli'r allorau.

2. Dydy'r plant yn gwybod am ddim bydond am allorau paganaidd a pholion y dduwies Ashera!Maen nhw wedi eu gosod wrth ymylpob coeden ddeiliog ar ben bob bryn,

3. ar y mynyddoedd ac yn y caeau.Bydda i'n rhoi eich cyfoeth a'ch trysorauyn ysbail i'ch gelynion.Dyma'r pris fyddwch chi'n ei daluam yr holl bechu drwy'r wlad.

4. Byddwch chi'n colli gafael yn y wlad rois i'n etifeddiaeth i chi.Byddwch yn gwasanaethu eich gelynionmewn gwlad ddieithr.Mae fy llid yn llosgi fel tân fydd ddim yn diffodd.”

5. Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud:“Melltith ar y rhai sy'n trystio pobl feidrola chryfder dynol,a'r galon wedi troi cefn arna i.