beibl.net 2015

Jeremeia 16:13-18 beibl.net 2015 (BNET)

13. Felly dw i'n mynd i'ch taflu chi allan o'r wlad yma, a'ch gyrru chi i wlad dych chi a'ch hynafiaid yn gwybod dim amdani. Byddwch chi'n addoli duwiau eraill yno, nos a dydd. Fydda i ddim yn teimlo'n sori drosoch chi!’”

14. “Ac eto, mae amser gwell i ddod,” meddai'r ARGLWYDD. “Yn lle dweud, ‘Mor sicr â bod yr ARGLWYDD yn fyw, yr un achubodd bobl Israel o'r Aifft …’

15. bydd pobl yn dweud, ‘Mor sicr â bod yr ARGLWYDD yn fyw, yr un achubodd bobl Israel o dir y gogledd ac o'r gwledydd lle roedd wedi eu gyrru nhw.’ Achos bryd hynny dw i'n mynd i ddod â nhw yn ôl i'r wlad rois i i'w hynafiaid nhw.”

16. Ond ar hyn o bryd, dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: “Dw i'n anfon am y gelynion, fydd yn dod i ddal y bobl yma fel pysgotwyr. Wedyn bydda i'n anfon am eraill i ddod fel helwyr. Byddan nhw'n eu hela nhw o'r mynyddoedd a'r bryniau lle maen nhw'n cuddio yn y creigiau.

17. Achos dw i'n gweld popeth maen nhw'n ei wneud – y cwbl! Allan nhw ddim cuddio'u pechodau oddi wrtho i.

18. Rhaid iddyn nhw'n gyntaf ddiodde'r gosb lawn maen nhw'n ei haeddu am eu drygioni a'u pechod. Maen nhw wedi llygru fy nhir i gyda delwau marw o'u heilun-dduwiau ffiaidd, a llenwi fy etifeddiaeth â'u defodau afiach.”