beibl.net 2015

Jeremeia 16:10-20 beibl.net 2015 (BNET)

10. “Pan fyddi di'n dweud hyn i gyd wrth y bobl, byddan nhw'n siŵr o ofyn i ti, ‘Pam mae'r ARGLWYDD yn bygwth gwneud y pethau ofnadwy yma i ni? Beth ydyn ni wedi ei wneud o'i le? Sut ydyn ni wedi pechu yn erbyn yr ARGLWYDD ein Duw?’

11. Dywed di wrthyn nhw mai dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: ‘Am bod eich hynafiaid chi wedi troi cefn arna i. Aethon nhw i addoli a gwasanaethu duwiau eraill; troi cefn arna i, a gwrthod beth ddysgais i iddyn nhw.

12. Ond dych chi'n waeth na'ch hynafiaid! Dych chi'n ystyfnig, yn dilyn y duedd ynoch chi i wneud drwg, ac wedi gwrthod gwrando arna i.

13. Felly dw i'n mynd i'ch taflu chi allan o'r wlad yma, a'ch gyrru chi i wlad dych chi a'ch hynafiaid yn gwybod dim amdani. Byddwch chi'n addoli duwiau eraill yno, nos a dydd. Fydda i ddim yn teimlo'n sori drosoch chi!’”

14. “Ac eto, mae amser gwell i ddod,” meddai'r ARGLWYDD. “Yn lle dweud, ‘Mor sicr â bod yr ARGLWYDD yn fyw, yr un achubodd bobl Israel o'r Aifft …’

15. bydd pobl yn dweud, ‘Mor sicr â bod yr ARGLWYDD yn fyw, yr un achubodd bobl Israel o dir y gogledd ac o'r gwledydd lle roedd wedi eu gyrru nhw.’ Achos bryd hynny dw i'n mynd i ddod â nhw yn ôl i'r wlad rois i i'w hynafiaid nhw.”

16. Ond ar hyn o bryd, dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: “Dw i'n anfon am y gelynion, fydd yn dod i ddal y bobl yma fel pysgotwyr. Wedyn bydda i'n anfon am eraill i ddod fel helwyr. Byddan nhw'n eu hela nhw o'r mynyddoedd a'r bryniau lle maen nhw'n cuddio yn y creigiau.

17. Achos dw i'n gweld popeth maen nhw'n ei wneud – y cwbl! Allan nhw ddim cuddio'u pechodau oddi wrtho i.

18. Rhaid iddyn nhw'n gyntaf ddiodde'r gosb lawn maen nhw'n ei haeddu am eu drygioni a'u pechod. Maen nhw wedi llygru fy nhir i gyda delwau marw o'u heilun-dduwiau ffiaidd, a llenwi fy etifeddiaeth â'u defodau afiach.”

19. “O ARGLWYDD, ti sy'n rhoi nerth i mi, ac yn fy amddiffyn;ti ydy'r lle saff i mi ddianc iddo pan dw i mewn trafferthion.Bydd cenhedloedd o bob rhan o'r bydyn dod atat ti ac yn dweud:‘Roedd ein hynafiaid wedi eu magu i addoli delwau diwerth,pethau da i ddim oedd yn gallu helpu neb.

20. Ydy pobl yn gallu gwneud eu duwiau eu hunain?Na! dydy pethau felly ddim yn dduwiau go iawn.’”