1. Yna dyma'r ARGLWYDD yn dweud hyn wrtho i: “Hyd yn oed petai Moses a Samuel yn dod i bledio dros y bobl yma, fyddwn i ddim yn eu helpu nhw. Dos â nhw o ngolwg i! Anfon nhw i ffwrdd!
2. Ac os byddan nhw'n gofyn, ‘Ble awn ni?’, dywed wrthyn nhw: ‘Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud:“Bydd y rhai sydd i farw o haint yn marw o haint.Bydd y rhai sydd i farw yn y rhyfel yn marw yn y rhyfel.Bydd y rhai sydd i farw o newyn yn marw o newyn.Bydd y rhai sydd i gael eu cymryd yn gaethion yn cael eu cymryd yn gaethion.”’
3. Bydd pedwar peth ofnadwy yn digwydd iddyn nhw,” meddai'r ARGLWYDD: “Bydd y cleddyf yn eu lladd. Bydd cŵn yn llusgo'r cyrff i ffwrdd. Bydd adar yn eu bwyta a'r anifeiliaid gwylltion yn gorffen beth sydd ar ôl.
4. Bydd beth fydd yn digwydd iddyn nhw yn dychryn pobl y gwledydd i gyd. Dyna'r gosb am beth wnaeth Manasse fab Heseceia, brenin Jwda, yn Jerwsalem.”
5. “Pwy sy'n mynd i deimlo trueni drosot ti, Jerwsalem?Fydd unrhyw un yn cydymdeimlo hefo ti?Fydd unrhyw un yn stopio i holi sut wyt ti?