beibl.net 2015

Jeremeia 14:17-21 beibl.net 2015 (BNET)

17. Dywed fel hyn wrthyn nhw, Jeremeia:‘Dw i'n colli dagrau nos a dydd;alla i ddim stopio crïo dros fy mhobl druan.Mae'r wyryf annwyl wedi cael ergyd farwol.Mae hi wedi cael ei hanafu'n ddifrifol.

18. Pan dw i'n mynd allan i gefn gwlad,dw i'n gweld y rhai sydd wedi cael eu lladd gyda'r cleddyf.Pan dw i'n cerdded drwy'r ddinas,dw i'n gweld canlyniadau erchyll y newyn.Mae'r proffwydi a'r offeiriaid yn mynd ymlaen â'i busnes;dŷn nhw ddim yn deall beth sy'n digwydd.’”

19. “ARGLWYDD, wyt ti wir wedi gwrthod Jwda?Wyt ti'n casáu Seion bellach?Pam wyt ti wedi'n taro ni mor galednes bod dim gobaith i ni wella?Roedden ni'n gobeithio y byddai popeth yn iawn,ond i ddim pwrpas;roedden ni'n edrych am amser gwell,ond dim ond dychryn gawson ni.

20. ARGLWYDD, dŷn ni'n cyfadde'n drygioni,a bod ein hynafiaid wedi gwneud drwg hefyd.Dŷn ni wedi pechu go iawn yn dy erbyn di.

21. ARGLWYDD, er mwyn dy enw da, paid â'n gwrthod ni.Paid dirmygu'r lle ble mae dy orsedd wych di.Cofia'r ymrwymiad wnest ti hefo ni. Paid â'i dorri!