beibl.net 2015

Jeremeia 13:2-16 beibl.net 2015 (BNET)

2. Felly dyma fi'n prynu lliain isaf fel y dwedodd yr ARGLWYDD, a'i wisgo am fy nghanol.

3. Wedyn dyma'r ARGLWYDD yn rhoi neges arall i mi, a dweud,

4. “Cymer y lliain isaf brynaist ti, yr un rwyt ti'n ei wisgo, a dos at yr Afon Ewffrates. Cuddia fe yno mewn hollt yn y graig.”

5. Felly dyma fi'n mynd ac yn ei guddio wrth yr Ewffrates fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud.

6. Aeth amser maith heibio, a dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrtho i, “Dos at yr Afon Ewffrates i nôl y lliain ddywedais i wrthot ti am ei guddio yno.”

7. Felly dyma fi'n mynd yno a palu am y lliain lle roeddwn i wedi ei guddio. Roedd wedi ei ddifetha, ac yn dda i ddim.

8. A dyma fi'n cael neges arall gan yr ARGLWYDD

9. yn dweud, “Dyna sut bydda i'n difetha balchder Jwda a Jerwsalem.

10. Mae'r bobl ddrwg yma yn gwrthod gwrando arna i. Maen nhw'n ystyfnig ac yn mynnu gwneud beth maen nhw eisiau. Maen nhw'n addoli eilun-dduwiau paganaidd. Felly byddan nhw'n cael eu difetha fel y lliain yma, sy'n dda i ddim bellach.

11. Yn union fel lliain isaf wedi ei rwymo'n dynn am ganol dyn, roeddwn i wedi rhwymo pobl Israel a Jwda amdana i,” meddai'r ARGLWYDD. “Roeddwn i eisiau iddyn nhw fod yn bobl sbesial i mi, yn fy anrhydeddu i, ac yn fy addoli i. Ond roedden nhw'n gwrthod gwrando.”

12. “Felly dywed wrthyn nhw mai dyma mae'r ARGLWYDD, Duw Israel, yn ei ddweud: ‘Mae pob jar gwin i gael ei lenwi â gwin!’ A byddan nhw'n ateb, ‘Wrth gwrs! Dŷn ni'n gwybod hynny'n iawn.’

13. Yna dywed di wrthyn nhw mai dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: ‘Dw i'n mynd i lenwi pobl y wlad yma nes byddan nhw'n feddw gaib – y brenhinoedd sy'n ddisgynyddion i Dafydd, yr offeiriaid, y proffwydi, a phobl Jerwsalem i gyd.

14. Bydda i'n eu malu nhw fel jariau yn erbyn ei gilydd, rhieni a'u plant. Fydda i'n dangos dim trueni na thosturi atyn nhw. Bydda i'n eu dinistrio nhw,’”—yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.

15. Gwrandwch! Peidiwch bod yn falch!—mae'r ARGLWYDD wedi dweud.

16. Rhowch i'r ARGLWYDD eich Duw y parch mae'n ei haedducyn iddo ddod â thywyllwch arnoch chi.Cyn i chi faglu a syrthiowrth iddi dywyllu ar y mynyddoedd.Cyn i'r golau dych chi'n chwilio amdanodroi'n dristwch ac yn dywyllwch dudew.