beibl.net 2015

Jeremeia 13:19-27 beibl.net 2015 (BNET)

19. Bydd giatiau trefi'r Negef wedi eu cau,a neb yn gallu eu hagor.Bydd pobl Jwda i gyd yn cael eu caethgludo!’”

20. “Edrych, Jerwsalem. Mae'r gelyn yn dod o'r gogledd.Ble mae'r praidd gafodd ei rhoi yn dy ofal di?Ble mae'r ‛defaid‛ roeddet ti mor falch ohonyn nhw?

21. Sut fyddi di'n teimlo pan fydd yr ARGLWYDDyn gosod y rhai wnest ti ffrindiau gyda nhwi dy reoli di?Byddi'n gwingo mewn poenfel gwraig ar fin cael babi.

22. Byddi'n gofyn i ti dy hun,‘Pam mae'r pethau yma wedi digwydd i mi?Pam mae fy nillad wedi eu rhwygo i ffwrdd?Pam dw i wedi fy nhreisio fel hyn?’A'r ateb ydy, am dy fod ti wedi gwneud cymaint o ddrwg!

23. Ydy dyn du yn gallu newid lliw ei groen?Ydy'r llewpard yn gallu cael gwared â'i smotiau?Na. A does dim gobaith i chi wneud da,am eich bod wedi hen arfer gwneud drwg!”

24. “Dw i'n mynd i'ch gyrru chi ar chwâl,fel us yn cael ei chwythu i bobman gan wynt yr anialwch.

25. Dyna beth sy'n dod i ti!Dyna wyt ti'n ei haeddu.Ti wedi fy anghofio i,a troi at dduwiau ffals yn fy lle.

26. Bydda i'n dy gywilyddio di –yn codi dy sgert dros dy wyneba bydd pawb yn gweld dy rannau preifat.

27. Dw i wedi gweld y pethau ffiaidd ti'n eu gwneud:godinebu, a gweryru'n nwydus ar ôl duwiau eraill.Ti wedi puteinio gyda nhwar ben y bryniau ac yn y caeau.Mae hi ar ben arnat ti, Jerwsalem! Fyddi di byth yn lân!Am faint mwy mae hyn i fynd ymlaen?”