beibl.net 2015

Jeremeia 12:7-15 beibl.net 2015 (BNET)

7. Dw i wedi troi cefn ar fy nheml,a gwrthod y bobl ddewisais.Dw i'n mynd i roi'r bobl wnes i eu caruyn nwylo eu gelynion.

8. Mae fy mhobl wedi troi arna ifel llew yn y goedwig.Maen nhw'n rhuo arna i,felly dw i yn eu herbyn nhw.

9. Mae'r wlad fel ffau hienasac adar rheibus yn hofran o'u cwmpas!Casglwch yr anifeiliaid gwylltion i gyd.Gadewch iddyn nhw ddod i ddinistrio.

10. Mae arweinwyr y gwledydd yn dinistrio fy ngwinllan,a sathru'r tir ddewisais.Byddan nhw'n troi y wlad hyfrydyn anialwch diffaith.

11. Byddan nhw'n ei dinistrio hi'n llwyr,nes bydd yn grastir gwag.Bydd y tir i gyd wedi ei ddinistrio,a does neb o gwbl yn malio.

12. Bydd byddin ddinistriol yn dod dros fryniau'r anialwch.Nhw ydy'r cleddyf mae'r ARGLWYDD yn ei ddefnyddioi ddod â dinistr o un pen o'r wlad i'r llall.Fydd neb yn saff!

13. Mae fy mhobl wedi hau gwenith,ond dim ond drain fyddan nhw'n ei gasglu!Maen nhw wedi gweithio'n galed i ddim byd.Bydd eu cnydau bach yn achos cywilydd,am fod yr ARGLWYDD wedi digio'n lân hefo nhw.”

14. Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud am y gwledydd drwg o'n cwmpas ni sy'n ymosod ar y tir roddodd e i'w bobl Israel: “Dw i'n mynd i symud pobl y gwledydd hynny o'u tir, a gollwng pobl Jwda yn rhydd o'u canol nhw.

15. Ond ar ôl symud y bobl bydda i'n troi ac yn dangos trugaredd atyn nhw, a rhoi eu tir yn ôl iddyn nhw i gyd. Bydd pawb yn mynd adre i'w wlad ei hun.