beibl.net 2015

Jeremeia 11:17-21 beibl.net 2015 (BNET)

17. Mae'r ARGLWYDD holl-bwerus, wnaeth dy blannu di yn y wlad, wedi cyhoeddi fod dinistr yn dod arnat ti. Mae'n dod am fod gwledydd Israel a Jwda wedi gwneud drwg, a'm gwylltio i drwy losgi arogldarth i Baal.”

18. Dangosodd yr ARGLWYDD – ron i'n gwybod wedyn;dangosodd beth roedden nhw'n bwriadu ei wneud.

19. Ro'n i fel oen bach diniwed yn cael ei arwain i'r lladd-dy;ddim yn sylweddoli mai yn fy erbyn roedd eu cynllwyn,“Rhaid i ni ddinistrio'r goeden a'i ffrwyth!Gadewch i ni ei ladd, a'i dorri o dir y byw,a bydd pawb yn anghofio amdano.”

20. “O ARGLWYDD holl-bwerus, rwyt ti'n barnu'n deg!Ti'n gweld beth mae pobl yn ei feddwl a'i fwriadu.Tala nôl iddyn nhw am beth maen nhw'n ei wneud.Dw i'n dy drystio di i ddelio gyda'r sefyllfa.”

21. Felly, dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud am y dynion o Anathoth sydd eisiau fy lladd i. (Roedden nhw wedi dweud y bydden nhw'n fy lladd i os nad oeddwn i'n stopio proffwydo fel roedd yr ARGLWYDD yn dweud wrtho i).